Neidio i'r prif gynnwy

Eich Barn ar Wasanaethau Fasgwlaidd yn Ne Ddwyrain Cymru

Rhwng 19 Chwefror ac 16 Ebrill 2021, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ymgysylltiad â’r cyhoedd ar gynnig i ad-drefnu gwasanaethau fasgwlaidd lleol yn fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’.

Mae clinigwyr yn cytuno bod hwn yn fodel darparu cynaliadwy a fydd yn darparu’r canlyniadau gorau i’r holl gleifion o fewn y rhanbarth ac yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau a staff yn ôl cyngor y Gymdeithas Fasgwlaidd.

Ymgysylltu â’r cyhoedd

Roedd y broses ymgysylltu yn gofyn am adborth gan y cyhoedd ar y cynnig i leoli hwb llawfeddygaeth fasgwlaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gyda’r prif wasanaethau ysbyty lloeren yn aros yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Athrofaol y Faenor, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a gofal yn aros yn agosach at gartrefi lle bynnag y bo’n bosibl.

  • Gwnaeth 110 o bobl ymateb i’r ymgysylltiad drwy arolwg ar-lein
  • Cynhaliwyd 7 cyfarfod cyhoeddus rhithwir gyda chyfanswm o 29 o bobl yn ymuno
  • Trafodwyd cynigion mewn cyfarfod Trydydd Sector ac mewn ystod o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid mewnol

Diolch i bawb a gymerodd y cyfle i roi adborth, drwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, yr arolwg ar-lein, dros e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Beth a ddywedoch wrthym

O’r rhai hynny a gymerodd ran yn yr arolwg ar-lein, roedd 72% yn cytuno â’r dystiolaeth genedlaethol a’r argymhelliad gan yr arfarniad o opsiynau clinigol y byddai model prif ganolfan a lloerennau yn gwella gwasanaethau fasgwlaidd a chanlyniadau i gleifion yn Ne-ddwyrain Cymru.

Daeth nifer o themâu cyffredin i’r amlwg o’r adborth a gafwyd mewn ymateb i’r cwestiynau ymgysylltu ac mewn fformatau eraill, gan gynnwys sylwadau a wnaed yn y digwyddiadau cyhoeddus ac i randdeiliaid.

Nodwyd y themâu canlynol:

  • Trefnu ac integreiddio gwasanaethau rhwydwaith

Gwnaeth ymatebwyr amlygu’r syniadau neu’r problemau penodol sy’n gysylltiedig â darparu ac integreiddio gwasanaeth o fewn y rhwydwaith arfaethedig ac yn y prif ganolfan a’r lloerennau. Roedd pobl eisiau sicrwydd bod y model yn ddigonol.

  • Lleoliad y prif ganolfan a’r lloerennau

Codwyd cwestiynau ynghylch lleoliadau’r prif ganolfan a’r lloerennau a pham eu bod wedi’u dewis.

  • Hygyrchedd a thrafnidiaeth

Mynegodd y rhai a oedd yn cymryd rhan pa mor bwysig yw ystyried trefniadau teithio a pharcio mewn safleoedd ysbyty.

  • Y gofal a ddarperir

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn poeni am effaith pandemig COVID-19 ar amseroedd aros a darpariaeth y gwasanaethau.

  • Y broses ymgysylltu

Gwnaeth sylwadau ynghylch cwmpas yr ymgysylltu, sut yr ymgynghorwyd â’r cyhoedd ac ym mha ffordd.

  • Effaith ar wasanaethau eraill

Gwnaeth y cyhoedd gwestiynau effaith y model ar wasanaethau sy’n bodoli eisoes yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac i ba raddau y mae anghenion y dyfodol wedi’u hystyried.

  • Gweithlu

Gwnaeth yr ymatebwyr a’r rhai a oedd yn cymryd rhan leisio pa mor bwysig yw hyfforddiant proffesiynol a’r cyfleoedd i ddatblygu ar gyfer yr holl staff yn y rhwydwaith, yn ogystal â chodi cwestiynau ynghylch sut y dylid staffio Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru.

  • Cyfathrebu

Gwnaeth yr ymatebwyr amlygu pwysigrwydd cyfathrebu a gweithio ar y cyd ar draws pedwar o ardaloedd y Bwrdd Iechyd. Atgyfnerthwyd pwysigrwydd cyfathrebu rhwng cleifion a’u teuluoedd yn ystod eu harhosiad fel cleifion mewnol hefyd.

  • Materion ariannol

Mynegwyd pryder ynghylch ariannu annigonol ar gyfer y Byrddau Iechyd a goblygiadau ariannol gweithredu model rhwydwaith yn yr ardal.

Ceir disgrifiad mwy manwl o’r themâu hyn yn yr adroddiad ymgysylltu llawn yn ogystal â’r ymateb i’r materion a godwyd. Mae hyn yn cynnwys pa gamau gweithredu a gymerir i fynd i’r afael â’r materion yn rhan o ddatblygiad parhaus y rhwydwaith. Defnyddir yr holl adborth i sicrhau bod gwasanaethau’r dyfodol yn cael eu gweithredu’n addas gyda’r ystyriaethau cywir, gan gael effaith gadarnhaol ar gleifion, eu teuluoedd a staff y GIG.

Y canlyniad

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned a Byrddau Iechyd partner wedi adolygu canfyddiadau’r ymgysylltiad yn annibynnol ac wedi cefnogi’r achos i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith, yn amodol ar weld y materion a godwyd yn ystod yr ymgysylltiad yn cael eu datrys yn y cam gwaith nesaf, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

Beth nesaf?

Bydd y gwaith cynllunio ffurfiol ar gyfer Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru bellach yn cael ei weithredu a bydd y Byrddau Iechyd yn sefydlu model prif ganolfan a lloerennau newydd ar y cyd, gan gynnwys seilwaith ac adnoddau. Darperir diweddariadau pellach wrth i’r gwasanaeth ddatblygu.

Gweler Adroddiad Ymgysylltu â’r Cyhoedd Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru yma.


Daeth yr ymgysylltiad hwn i ben ar 16 Ebrill 2021

Diolch i bawb wnaeth ymateb i’n hymgysylltiad ar Ddyfodol Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru, a ddaeth i ben ar 16 Ebrill 2021.

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgysylltiad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y camau nesaf yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.


Ymgysylltiad gwreiddiol

Mae nifer o heriau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru, sy’n golygu na ellir cynnal y gwasanaeth ar ei ffurf bresennol ar gyfer y dyfodol. Mae cyfluniad gwasanaethau fasgwlaidd ar draws y rhanbarth wedi’i drafod yn helaeth ers llawer o flynyddoedd. Cafodd llawer o opsiynau eu harchwilio a chafodd cyfres o argymhellion eu sefydlu.

Mae gan ein Byrddau Iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru gysylltiadau gwaith hirsefydlog, ac mae Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru wedi cael ei sefydlu’n ffurfiol i wella cydweithrediad a nodi’r model gofal gorau ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Ar gyfer Powys, mae'r newidiadau hyn yn effeithio'n bennaf ar gymunedau yn ne Powys sy'n derbyn gwasanaethau ysbyty cyffredinol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, The Grange Cwmbran ac Ysbyty Nevill Hall. Nid effeithir ar lwybrau ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd mewn rhannau eraill o'r sir.

Gyda’n gilydd, rydym yn cynnig nifer o newidiadau i wasanaethau fasgwlaidd yn ein rhanbarth a fydd yn ei wneud yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn bwysicach oll, yn arwain at ofal cleifion a chanlyniadau gwell. Gan ystyried canllawiau cenedlaethol a chyngor arbenigol, mae model prif ganolfan a lloerennau wedi’i nodi fel y ffordd orau o ddarparu gofal fasgwlaidd ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

Byddai’r model hwn yn golygu y byddai’r holl lawdriniaethau fasgwlaidd mawr yn cael eu cynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru fel y prif ganolfan, ond byddai’ rhan fwyaf o’r gofal yn cael ei ddarparu yn nes at gartrefi pobl mewn ysbytai lloeren. Mae hyn yn cynnwys asesiadau cyn llawdriniaeth, ymchwiliadau a gofal adfer.

Hoffem glywed gennych chi, poblogaeth De-ddwyrain Cymru, i gael eich barn ar y model gofal arfaethedig...

Rydym wedi casglu gwybodaeth am natur gwasanaethau fasgwlaidd, y drefn bresennol, yr heriau sy’n ein hwynebu, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a’r buddion i gleifion. Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu mwy am y newidiadau arfaethedig a chyflwynwch eich adborth. Mae’r gwasanaethau hyn yn rhan hanfodol o’n seilwaith gofal iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru.

Darllenwch y ddogfen Dyfodol Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru a chyflwynwch eich adborth drwy ein harolwg.

Dogfennau defnyddiol:
Rhannwch eich safbwyntiau...

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydliadau partner eraill i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael y cyfle i ddysgu am y rhaglen hon a rhannu eu

safbwyntiau. Mae’n bwysig ein bod yn clywed eich meddyliau a’ch safbwyntiau wrth i ni ddechrau datblygu ein cynlluniau.

Bydd y cyfle hwn i ymgysylltu â’r cyhoedd yn para 8 wythnos o ddydd Gwener 19 Chwefror i ddydd Gwener 16 Ebrill 2021.


Rhowch adborth i ni drwy gwblhau’r arolwg byr hwn:

Cwblhau’r arolwg ar-lein


Fel arall, gallwch lenwi’r ffurflen yn y ddogfen Dyfodol Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru a’i hanfon atom mewn dwy ffordd:

  • Drwy ei sganio, neu drwy dynnu llun o ansawdd da a’i anfon atom dros e-bost at  sewales.vascular@wales.nhs.uk
  • Ei hanfon drwy’r post at y cyfeiriad isod:

ENGAGE WITH US
Woodland House
Maes-y-coed Road
Cardiff
CF14 4HH

I siarad ag aelod o’r tîm i gael rhagor o arweiniad, ffoniwch: 02921 836068


Digwyddiadau Ymgysylltu â'r Cyhoedd:

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gan bob un o’r Byrddau Iechyd sy’n darparu’r gwasanaeth ar y dyddiadau canlynol. Mae’r digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn cael eu harwain gan y sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau llawdriniaeth fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae croeso i gleifion, aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid ym Mhowys i ddod i unrhyw un o’r digwyddiadau hyn.

  • 10/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • 11/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg)
  • 16/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • 16/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro )
  • 17/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • 18/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)
  • 18/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • 21/03/2021 (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg)

I fynegi eich diddordeb neu i gofrestru i ymuno â digwyddiad, anfonwch e-bost at sewales.vascular@wales.nhs.uk


Fideos:

David Lewis, Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol, yn cynnig trosolwg o wasanaethau fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru ac yn nodi’r achos dros newid. 

 

 

Beth yw manteision model gofal newydd ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd yn ardal De-ddwyrain Cymru? 

 

 

Bydd ein model gofal arfaethedig ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd yn y dyfodol yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ofal cleifion yn digwydd yn agosach at gartrefi pobl mewn ysbytai lloeren. Dyma Hannah yn dweud mwy... 

 

 

Rhannu:
Cyswllt: