Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol 10 mlynedd PGIAC

27 Medi 2022 i 22 Rhagfyr 2022

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ysgrifennu strategaeth newydd 10 mlynedd ar gyfer gwasanaethau arbenigol i drigolion Cymru a’i phoblogaeth gyfrifol.

I gefnogi datblygu’r strategaeth, rydyn ni’n ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid diddordeb allweddol i gasglu eu sylwadau am ddyfodol gwasanaethau arbenigol, yn ogystal â’r gwerth pellach y gall Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ei ychwanegu fel un o brif gyrff comisiynu’r GIG ar gyfer gwasanaethau arbenigol yng  Nghymru.

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) yn Bwyllgor Ar y Cyd o saith Bwrdd iechyd Lleol yng Nghymru. Mae’r saith Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ateb gofynion iechyd eu poblogaeth breswyl, ac maent wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb dros gomisiynu ystod o wasanaethau arbenigol i PGIAC. Cydnabyddir nad yw pob gwasanaeth arbenigol, fel y diffinnir yn Prescribed Services Manual GIG Lloegr, ac mae portffolio bychan yn parhau i fod yn gyfrifoldeb comisiynu byrddau iechyd. 

Nod datblygu strategaeth gwasanaethau arbenigol yw sicrhau bod preswylwyr Cymru’n gallu derbyn nawr, ac yn y dyfodol, mynediad teg i wasanaethau arbenigol o safon uchel, sy’n glinigol effeithiol, yn cynnig y profiad a’r canlyniadau clinigol gorau i gleifion a’r boblogaeth, ac yn cynyddu’r gwerth a geir o’r adnoddau sydd ar gael. 

Mae datblygu strategaeth gwasanaethau arbenigol ar ôl COVID-19 nawr yn rhoi’r cyfle i ni greu llwybr er mwyn canolbwyntio ar welliant a gwerth ac er mwyn manteisio ar dechnolegau newydd a ffyrdd arloesol o weithio.

Oherwydd cyflymder y newid mewn gwasanaethau arbenigol bydd angen adolygu’r strategaeth mewn 5 mlynedd er mwyn ystyried a yw’n dal i fod yn addas i bwrpas ar gyfer y cyfnod nesaf o 5 mlynedd.

Bydd ein proses ymgysylltu’n dechrau ar 27 Medi ac yn digwydd tan 22 Rhagfyr 2022. Caiff y strategaeth ei datblygu yn gynnyrch sy’n deillio o’r broses ymgysylltu yn barod ar gyfer Mai 2023 er mwyn hysbysu Cynllun Comisiynu Integredig PGIAC Chynlluniau Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd ar gyfer 2024 a thu hwnt.

Mae PGIAC yn chwilio am eich cymorth wrth ysgrifennu’r cynllun drwy ofyn nifer o gwestiynau'r hoffen nhw eich barn arnyn nhw.

Darganfod mwy a dweud eich dweud: Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol 10 mlynedd WHSSC


 

 

Rhannu:
Cyswllt: