Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n cwblhau Cynllun Gofal Ymlaen Llaw Fy Mywyd, Fy Nymuniadau?

Mae Fy Mywyd, Fy Nymuniadau yn Gynllun Gofal Ymlaen Llaw neu’n Ddatganiad o Ddymuniadau.

Cafodd ei dylunio ar gyfer oedolion (18+) sydd â galluedd meddyliol (y gallu i wneud penderfyniad eu hun)

Mae ei chwblhau yn broses wirfoddol a all eich helpu i gofnodi eich dymuniadau ynghylch sut yr hoffech gael gofal yn y dyfodol. Gall y wybodaeth hon fod o gymorth mawr i'ch anwyliaid ac i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal a'ch triniaeth. Does dim rhaid i chi fod yn sâl i’w cwblhau.

Dim ond os na allwch gyfleu eich dymuniadau y caiff y wybodaeth yn y ddogfen hon ei hystyried. Bydd yn ddefnyddiol i’r rhai sy'n agos atoch wybod am y ddogfen hon, a lle caiff ei chadw. 

Dyma'ch dogfen chi – gall gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol gymryd copïau os dymunwch, ond mae angen i'r ddogfen hon aros gyda chi. Os ydych yn hapus i rannu'r ddogfen hon gyda'ch gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y wybodaeth ac yn llofnodi ar dudalen 9 o'r ddogfen ACP.

Gallwch gwblhau’r ddogfen yn unigol, gyda pherson sy’n agos atoch neu gyda gweithiwr iechyd a gofal proffesiynol. Gallwch ei newid ar unrhyw adeg ac nid yw'n ddogfen sydd wedi rhwymo mewn cyfraith. Nid oes angen i chi gwblhau'r ddogfen gyfan a gallwch ddod yn ôl i unrhyw adran, os oes angen.

Os oes gennych safbwyntiau clir am driniaethau neu ymyriadau na fyddech eu heisiau, gallwch ffurfioli'r dymuniadau hyn drwy gwblhau Penderfyniad Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth (ADRT) sydd wedi’i rhwymo mewn cyfraith. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y llyfryn canllaw gwybodaeth

Rydym yn awgrymu: https://compassionindying.org.uk/library/advance-decision-pack/

Mae’n syniad da i adolygu eich dymuniadau’n rheolaidd a gadewch i’ch gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol wybod am unrhyw ddiweddariadau.

Llofnodwch a dyddiwch unrhyw ychwanegiadau neu newidiadau ar dudalennau 13 - 15 o'r ddogfen ACP (yn ogystal â llofnodi a dyddio ar dudalen 9 ar gwblhau eich ACP am y tro cyntaf).

Os oes angen help arnoch i gwblhau'r ddogfen hon, gweler llyfryn Canllaw Fy Mywyd, Fy Nymuniadau, neu cysylltwch â'ch meddygfa neu weithiwr iechyd a gofal proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal, neu cysylltwch â Powys.PalliativeCareTeam@wales.nhs.uk

 

Rhannu:
Cyswllt: