Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd 9 Ionawr 2024

Dechrau:
10:00 - 09/01/2024
Diwedd:
12:00 - 09/01/2024
Math o ddigwyddiad:
Lleoliad:

Disgrifiad

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae'n cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i harsylwi fel arfer.

Fodd bynnag, yng ngoleuni’r cyngor a’r canllawiau presennol mewn perthynas â’r Coronafeirws (COVID-19), mae’r Bwrdd wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd rhithwir drwy ddulliau electronig yn hytrach nag mewn lleoliad ffisegol, hyd y gellir rhagweld. Yn anffodus, bydd hyn yn golygu na fydd aelodau'r cyhoedd yn gallu bod yn bresennol yn bersonol. Mae’r Bwrdd wedi gwneud y penderfyniad hwn er budd gorau diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd.

Mae'r Bwrdd yn cyflymu cynlluniau i alluogi ei gyfarfodydd i fod ar gael i'r cyhoedd trwy ffrydio byw. Yn y cyfamser, os hoffech arsylwi rhith-gyfarfod o’r bwrdd, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Bwrdd cyn y cyfarfod er mwyn i’ch cais gael ei ystyried yn unigol, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd ( helen.bushell2@ wales.nhs.uk).

Rhannu:
Cyswllt: