Neidio i'r prif gynnwy

Brechu COVID-19

Mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y Gwanwyn i'n trigolion mwyaf agored i niwed yn 2024.

Prif nod Rhaglen Frechu COVID-19 yw atal clefyd COVID-19 difrifol.

Bydd rhaglen Atgyfnerthu COVID-19 y Gwanwyn ym Mhowys yn rhedeg rhwng 2il Ebrill 2024 a 30ain Mehefin 2024.

Bydd clinigau'n cael eu cynnal yn ein prif ganolfannau brechu yn Y Drenewydd a Bronllys, yn ogystal ag mewn canolfannau cymunedol ledled Powys a rhai o'n Hysbytai cymunedol.

Pwy sy'n gymwys i gael y brechlyn COVID-19 y gwanwyn hwn?

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn cynghori y dylid cynnig dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 i:

  • oedolion 75 oed neu hŷn
  • preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn
  • unigolion 6 mis oed a hŷn sy'n imiwnoataliedig (fel y diffinnir yn nhabl 3 neu 4 ym mhennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd)

 

Rhannu:
Cyswllt: