Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Ddydd Stryd y Parc y Drenewydd

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha' 4 Chwefror 2022

Mae gennym brif glinig brechu yng Nghanolfan Ddydd Park Street yn y Drenewydd.

Cyfeiriad: Canolfan Ddydd Stryd y Parc, Stryd y Parc, Y Drenewydd SY16 1EF (ar gyfer parcio mynediad i’r anabl) - fel arall parciwch yn Nhŷ Ladywell, Stryd yr Eglwys Newydd SY16 1JB

Teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae Canolfan Ddydd Park Street mewn lleoliad cyfleus o fewn pellter cerdded i orsaf fysiau’r Drenewydd a gorsaf drenau’r Drenewydd. Os ydych wedi cael cynnig apwyntiad ac angen aildrefnu eich amser i gyd-fynd â chludiant cyhoeddus, yna defnyddiwch y manylion cyswllt yn eich llythyr i drafod hyn gyda'n tîm archebu.

Teithio mewn car

O Ffordd Osgoi’r Drenewydd (A489/A483) ewch i’r gogledd i’r Drenewydd o gylchfan yr A489/A483 ar Ffordd Dolfor (dyma’r hen A483). Byddwch yn pasio o dan bont reilffordd ac yn cyrraedd goleuadau traffig ar y gyffordd â Heol Llanidloes a Heol Newydd. Trowch i'r dde ac yn syth i'r chwith i Stryd y Parc.

  • Mae lle parcio i'r anabl ar gael ar y safle: Mae mynedfa'r ganolfan ddydd tua 250m o gyffordd Heol Newydd/Heol Llanidloes ar yr ochr chwith. Trowch i mewn i’r safle a bydd ein marsialiaid canfod y ffordd yn eich cyfeirio at fannau parcio pwrpasol i’r anabl wrth ymyl yr adeilad.
  • Gollwng: Mae rhywfaint o leoedd parcio ar y stryd ar gael ar Stryd y Parc ond yn dibynnu ar argaeledd.
  • Parcio cyhoeddus / cleifion:
    • Mae parcio am 30 munud ar gael yn Nhŷ Ladywell, Stryd yr Eglwys Newydd SY16 1JB
    • Mae rhywfaint o leoedd parcio ar y stryd ar gael ar Stryd y Parc a ffyrdd cyfagos yn amodol ar argaeledd.
    • Os ydych chi'n bwriadu ymweld â'r Drenewydd yn hirach, defnyddiwch feysydd parcio Canol y Dref yn y Drenewydd. Mae hyn yn cynnwys Maes Parcio Lôn Gefn (SY16 2NH) a Maes Parcio Graean (SY16 1AA). Codir tâl am barcio (ar hyn o bryd £1 am awr). Mae rhagor o wybodaeth am barcio yn y Drenewydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys ym meysydd parcio’r Drenewydd – Cyngor Sir Powys

Mae aelodau o'n tîm gan gynnwys marsialiaid canfod y ffordd gwirfoddol wrth law i helpu.

Mae gwybodaeth cynllunio taith gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus ar gael gan Traveline Cymru.

Mae cyngor a chymorth teithio ar gael o'n canolfan archebu a gan gynlluniau trafnidiaeth gymunedol leol.

 

 

 

 

 

 

Rhannu:
Cyswllt: