Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Archebu Brechlyn COVID

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha' 22 Mawrth 2024

Bydd pob un o drigolion Powys sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu yn ystod ymgyrch y Gwanwyn 2024 yn derbyn llythyr i'w gwahodd i'w apwyntiad. 

Efallai y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal yn;

  • Un o'n prif ganolfannau brechu ym Mronllys neu'r Drenewydd
  • Clinig yn eich ysbyty cymunedol lleol
  • Clinig mewn canolfan gymunedol leol

Os hoffech ganslo neu aildrefnu eich apwyntiad, ffoniwch y tîm trefnu apwyntiadau ar 01874 442510.

Arhoswch i dderbyn eich gwahoddiad cyn cysylltu â'r tîm trefnu apwyntiadau.

Rhannu:
Cyswllt: