Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ail-fwcio Brechlyn COVID-19

A ydych wedi derbyn llythyr gwahoddiad ar gyfer Atgyfnerthiad yr Hydref gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys? Ac a oes angen i chi newid eich apwyntiad?

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os oes gennych apwyntiad brechlyn COVID-19 yfori neu thu hwnt yng Nghymru a’ch bod wedi derbyn llythyr neu neges destun gan Bwrdd Iechyd yn eich gwahodd i ddefnyddio’r gwasanaeth yma mewn perthynas ag apwyntiad brechlyn COVID-19 penodol.

Gellir defnyddio’r Gwasanaeth Archebu Brechlyn i:

  • newid eich apwyntiad brechu
  • canslo eich apwyntiad brechu
  • stopio derbyn gwahoddiadau apwyntiad Brechu COVID-19 yn y dyfodol.

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi i cadarnhau eich apwyntiad ac yn gofyn i chi ddewis apwyntiad newydd yn eich ardal.

Mae Gwasanaeth Ail-archebu Brechiadau COVID-19 ar gael yn www.vaccines.nhs.wales

Bydd angen mewngofnodi i'r GIG i gael mynediad at y Gwasanaeth Ail-Archebu Brechiadau COVID-19. Gwnewch gais am fewngofnodi yma: How to set up NHS login


* bydd eich llythyr archebu yn cynnwys gwybodaeth am Ail-Fwcio Brechlyn COVID-19 os gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Rhannu:
Cyswllt: