Mae’n bosibl y gallwch ymuno â’n rhestr wrth gefn ar gyfer Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID-19 os ydych yn bodloni POB UN o’r meini prawf canlynol:
- Rydych chi'n 50 oed neu'n hŷn
- Rydych wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys
- Gallwch deithio am apwyntiad byr rybudd yn y Drenewydd (Canolfan Ddydd Park Street), Llandrindod (hen Adeilad Llywodraeth Cymru, Spa Road East) neu Ysbyty Bronllys.