Neidio i'r prif gynnwy

Lles a Hwyliau

Llun o 5 pelawd melyn gyda wynebau

Gall ansicrwydd yn sgil eich iechyd, eich gofal a'ch triniaeth fod yn straen. Ni waeth eich sefyllfa, gall fod yn defnyddio creu trefn diwrnod sy’n cynnwys gweithgareddau sy’n:

  • rhoi teimlad eich bod wedi cyflawni camp. 
  • helpu teimlo’n agosach gydag eraill.
  • defnyddiol ar gyfer eich lles chi.

 


Awgrymiadau defnyddiol:

Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau y gall wella eich lles:

  • Gwnewch weithgareddau rydych yn mwynhau - darllenwch lyfr neu gylchgrawn; gwyliwch y teledu neu ffilm; byddwch yn greadigol trwy beintio, gwau neu gymryd lluniau.
  • Cymerwch amser i ofalu amdanoch chi eich hun - cymerwch fath; peintiwch eich ewinedd; gwrandewch ar gerddoriaeth; paratowch bryd o fwyd ffres.
  • Treuliwch amser yn yr awyr agored neu eisteddwch wrth ffenest ar agor – plannwch blanhigion: pigwch flodau; gwrandewch ar fyd natur.
  • Byddwch yn heini - ewch am dro ysgafn neu gwnewch ddarnau ysgafn o ymarfer corff.
  • Cysylltwch gydag eraill - siaradwch gyda theulu, ffrindiau a chymdogion; ysgrifennwch lythyrau neu gardiau post.
  • Edrychwch ar ôl eich amgylchedd - glanhewch neu tacluswch ardal yn eich cartref; golchwch ddillad; trwsiwch rywbeth.
  • Rhowch gynnig ar rai ymarferion ymlacio neu ymwybyddiaeth ofalgar. 
  • Cadwch rywfaint o strwythur i'ch diwrnod - ewch i'r gwely a chodwch ar yr un pryd bob dydd.
  • Ar ddiwedd pob diwrnod byddwch yn garedig gyda’ch hun a myfyriwch ar dri pheth cadarnhaol, ni waeth pa mor fach ydynt.

Defnyddiwch adnoddau lleol y GIG:

 


Adnoddau gwirfoddol lleol defnyddiol:

Mind

Yn cefnogi pobl yn y gymuned sy’n cael eu heffeithio gan salwch meddwl a gofid. Mae croeso i bawb. Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau iach, cyrsiau a gweithdai wedi’u cynllunio i gefnogi a grymuso pobl sy’n profi trallod meddwl i symud tuag at adferiad.

 

 

 


 

 


Defnyddiwch adnoddau ar-lein:

 

 

 

Rhannu:
Cyswllt: