Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddi yn Eich Iechyd

Mae Buddsoddi yn Eich Iechyd yn rhaglen saith modiwl ar gyfer unrhyw un ym Mhowys a hoffai wella eu hiechyd a'u lles.

Mae'r rhaglen yn cael ei rhedeg trwy Microsoft Teams ac mae'n 2 awr o hyd. Nid oes angen i chi fod wedi ei ddefnyddio o'r blaen, byddwn yn eich cefnogi i sefydlu. Bydd angen cysylltiad rhyngrwyd a chyfrifiadur, gliniadur neu lechen a gwe-gamera arnoch os nad oes un wedi'i gynnwys yn eich dyfais.

Mae'r modiwlau yn sesiynau grŵp a ddarperir gan aelodau tîm o Wasanaeth Byw'n Dda Powys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Os na allwch ymuno â ni ar gyfer un o'n rhaglenni grŵp rydym hefyd yn cynnig rhaglen e-ddysgu Buddsoddi yn Eich Iechyd hunan-arweiniol.
Rhannu:
Cyswllt: