Rhaglen 8 modiwl yw Byw'n Dda gyda Phoen a Blinder sy'n edrych ar wahanol agweddau ar reoli poen a / neu flinder parhaus. Mae pob modiwl yn seiliedig ar y dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf.
Rydym yn annog cyfranogwyr i fynychu'r holl fodiwlau, ond gallwch ddewis ym mha drefn i ymuno â nhw os hoffech chi. Ar ôl mynychu'r modiwl cyntaf, Cyflwyniad i Poen a Blinder gallwch chi fynychu unrhyw un neu bob un o'r saith modiwl arall.
Cyn pob modiwl ar-lein gofynnir i chi wylio cyfres o fideos byr yn ymwneud â phwnc y modiwl. Yna byddwn yn trafod y cynnwys yn y modiwl.
Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio ar gyfer pobl sydd â phoen neu flinder parhaus ac sy'n edrych ar ffyrdd o reoli'n well ac i fyw'n dda gyda chyflwr tymor hir
I fynychu'r rhaglen Byw'n Dda gyda Phoen a Blinder mae'n rhaid i Broffesiynol Gofal Iechyd eich cyfeirio at y gwasanaeth.
Cyn mynychu’r rhaglen, bydd gofyn i chi fynychu asesiad.