Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Ffôn ac Ar-lein

 

GIG 111 Pwsyo 2

I gael cymorth iechyd meddwl ar frys FFONIWCH 111 a phwyso RHIF 2

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl yn eich ardal.

Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.


Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL

Mae CALL yn darparu llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac at ystod o wybodaeth ar-lein.

Ffoniwch nawr ar 0800 132 737

Tecstiwch ‘help’ i 81066

 

 


Samariaid

Os ydych chi'n cael amser anodd, neu os ydych chi'n poeni am rywun arall. Beth bynnag yw eich sefyllfa, bydd aelod o’r Samariaid yn barod i’w hwynebu gyda chi.

Mae'r Samariaid ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Ffoniwch nawr ar 116 123

E-bostiwch jo@samaritans.org

Neu ewch i www.samaritans.org


PAPYRUS (atal hunanladdiad ifanc ar gyfer pobl dan 35 oed a’r rheini sy’n eu cefnogi nhw)

Ydych chi, neu oes yna berson ifanc rydych yn ei adnabod yn methu ymdopi â bywyd? Am gyngor cyfrinachol am atal hunan laddiad cysylltwch â HOPELINEUK.

Ar agor rhwng 9yb - 12yb (hanner nos) bob diwrnod y flwyddyn:

Ffoniwch ar 0800 068 4141

E-bost: pat@papyrus-uk.org

Dewch o hyd i help a chymorth ar Hafan - Papyrus UK | Suicide Prevention Charity (papyrus-uk.org)


Rethink

Mae Rethink yn gwella bywydau pobl yr effeithir arnynt yn ddifrifol gan salwch meddwl drwy ein rhwydwaith o grwpiau a gwasanaethau lleol, gwybodaeth arbenigol ac ymgyrchu llwyddiannus. Nod Reithink sicrhau bod gan bawb yr effeithir arnynt gan salwch meddwl difrifol ansawdd bywyd da. Mae Rethink yn darparu cyngor a gwybodaeth am sut i gefnogi rhywun sy’n teimlo’n hunanladdol.

Ffoniwch 0808 801 0525

Neu ewch i: www.rethink.org

(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)


Ymgyrch yn erbyn Byw'n Druenus (CALM) i ddynion

Mae Ymgyrch yn erbyn Byw'n Druenus (CALM) yn fudiad blaenllaw i atal hunanladdiadau. Bob wythnos bydd 125 o bobl yn y DU yn lladd eu hunain ac mae 75% o’r holl achosion yn y DU yn ddynion. Mae CALM yn bodoli i newid hyn.

Mae’r llinellau ffôn ar agor o 5pm tan hanner nos bob diwrnod.

Ffoniwch: 0808 58 58 58

Neu ewch i: www.thecalmzone.net

(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)


First Hand

Help os ydych chi wedi gweld hunanladdiad rhywun nad oeddech chi'n ei adnabod

Home - First Hand (first-hand.org.uk)

(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)


DAN24/7

Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru

DAN 247 – Llinnell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru


ARA

Elusen gofrestredig, sy'n helpu pobl i wella o broblemau iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol a gamblo.

Croeso i Ara - Addiction Recovery Agency (Ara) - Recovery For All (recovery4all.co.uk)


Sefydliad DPJ

Mae Sefydliad DPJ yn elusen iechyd meddwl yng Nghymru i gefnogi'r rhai mewn amaethyddiaeth a chymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Hafan | The DPJ Foundation

Rhannu:
Cyswllt: