Neidio i'r prif gynnwy

Eich Gwasanaeth Asesu'r Cof Lleol

Pwy mae gwasanaethau Asesu’r Cof yn eu cefnogi?

Mae Gwasanaeth Asesu’r Cof (MAS) yn cefnogi pobl a allai fod yn dioddef problemau â’r cof neu newidiadau o ran eu gallu i weithredu yn eu gweithgareddau bywyd bob dydd ar lefel y bydden nhw fel rheol yn disgwyl eu gwneud.

Rhoddir ystyriaeth i bobl o bob oedran ac mae’r gwasanaeth yn cynnig asesiad amlddisgyblaeth o’r cof. Gellir cwblhau hwn i ddechrau mewn apwyntiad clinig neu, os yw’n briodol, gellir ei gynnig yng nghartref y claf.

 

Oriau agor

Mae Gwasanaeth Asesu’r Cof yn gweithredu oriau craidd rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Sut i gael mynediad i’r gwasanaeth

I gael mynediad i’r gwasanaethau hyn, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu. Bydd yn eich atgyfeirio i’r gwasanaeth.

 

Beth i’w ddisgwyl

Mae’r timau MAS yn darparu asesiadau cyfannol sy’n effeithiol o ran darparu’r deilliannau gorau i’r sawl sy’n cael ei asesu, yn gwneud diagnosis ac yn rhoi triniaeth lle bo’n briodol. Mae cymorth ôl-ddiagnostig ar gael yn dilyn diagnosis o dementia.

Rhaid rhoi sylw i bryderon iechyd corfforol cyn mynychu’r gwasanaeth a bydd y Meddyg Teulu’n cwblhau hyn cyn atgyfeirio.

Bydd ymweliad dilynol ar gyfer asesiad parhaus yn cael ei drefnu os bydd angen. 

 

Ein Timau

MAS Gogledd Powys

Fan Gorau

Ysbyty Sirol Maldwyn

Ffordd Llanfair

Y Drenewydd

Powys SY16 2DW

Ffôn: 01686 617241

MAS De Powys

Swyddfa Ysgrifenyddion Meddygol

Ward Felindre

Ysbyty Bronllys

Bronllys

LD3 0LU

Ffôn: 01874 712472

MAS Ystradgynlais

Adran Iechyd Meddwl Pobl Hŷn

Ysbyty Ystradgynlais

Heol Glanrhyd

Ystradgynlais

Powys

SA9 1DU

Ffôn: 01639 846420

Rhannu:
Cyswllt: