Yma ym Mhowys, mae gennym ni ddau Dîm Trin Dementia yn y Cartref (DHTT) sy’n darparu ymateb cyflym, asesiad a chymorth dwys i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, ac mewn cartrefi preswyl a nyrsio ac ysbytai cymunedol.
Mae ein gwasanaeth ar gyfer pobl 65 oed a hŷn sydd â diagnosis o dementia sy’n dechrau’n ifanc ac sydd ag arwyddion o argyfwng seiciatrig acíwt mor ddifrifol fel eu bod mewn perygl o gael eu derbyn i ward iechyd meddwl os na fyddan nhw’n cael sylw DHTT.
Mae gan dîm Trin Dementia yn y Cartref Gogledd Powys oriau gweithredu craidd o 8:30am tan 7:00pm, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ar hyn o bryd, mae gan ein Tîm Trin Dementia yn y Cartref De Powys, sydd newydd ei sefydlu, oriau gweithredu craidd o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ceir mynediad i’r gwasanaeth trwy atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol.
Mae ein Timau Trin Dementia yn y Cartref yn darparu gwasanaeth triniaeth ddwys a diogel yn y cartref yn y ffordd leiaf cyfyngol. Eu nod ydy tarfu cyn lleied â phosibl ar fywyd unigolyn a diwallu ei anghenion yng nghyfnod cynnar arwyddion o gyflwr seiciatryddol acíwt. Fel rheol, caiff ymyriadau eu gwneud drwy ymweliadau cartref rheolaidd a chyswllt dros y ffôn. Mae ymyriadau yn rhai tymor byr ac nid ydyn nhw fel rheol yn para mwy na 6 wythnos.
Gall ein Timau Trin Dementia yn y Cartref wneud atgyfeiriadau lle bo angen i’n wardiau iechyd meddwl i gleifion mewnol os byddai unigolion yn elwa o arhosiad mewn ysbyty. Gall ein Timau Trin Dementia yn y Cartref hefyd atgyfeirio unigolion i wasanaethau eraill fel Seicoleg, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol a llawer mwy.
DHTT De Powys Tŷ Cloc Ysbyty Bronllys Bronllys LD30LU Ffôn: 01874 615 732 |
DHTT Gogledd Powys Uned Fan Gorau Ysbyty’r Drenewydd Ffordd Llanfair Y Drenewydd Powys SY16 2DW Ffôn: 01686 617 242 |