Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Poen

Mae'r tîm yn y Gwasanaeth Rheoli Poen a Blinder yn rhoi cymorth i bobl sydd am fyw bywyd yn fwy llawn ond yn cael eu hatal gan boen parhaus neu flinder cronig gan gynnwys syndromau blinder ôl-feirysol fel Syndrom Ôl-COVID. 

Mae rhaglenni wedi'u rhedeg gan y Bwrdd Iechyd ers 1994 ac mae gan y tîm amlddisgyblaethol gyfoeth o brofiad o weithio gyda phobl y mae eu problemau iechyd yn effeithio ar agweddau corfforol, seicolegol a chymdeithasol eu bywydau. 

Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ystod o leoliadau ledled Powys. Ar hyn o bryd, oherwydd COVID-19 mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn bennaf drwy fideo-gynadledda neu dros y ffôn, er ein bod yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb lle bo’n briodol ac yn ofynnol. Er mwyn cael mynediad at fideo-gynadledda, gallwch drefnu i’n tîm cymorth digidol yn uniongyrchol, drwy glinigwyr a gwasanaethau gweinyddol i gefnogi mynediad hawdd at apwyntiadau.

Gall pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd Pelfis gael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Rheoli Poen a Blinder gan glinigydd yn y gwasanaeth neu gan Ymarferydd Cyffredinol. 

I ganfod mwy o wybodaeth am y gwasanaeth, dilynwch y ddolen isod -  

Gwasanaeth Rheoli Poen a Blinder

Rhannu:
Cyswllt: