Y ddannoedd

Cyflwyniad

Toothache
Toothache

Ewch i weld deintydd os oes gennych ddannoedd.

Os nad oes gennych ddeintydd neu os na allwch gael apwyntiad brys, ffoniwch eich Llinell Cymorth Deintyddol lleol.

Peidiwch â mynd at eich meddyg teulu. Ni fydd yn gallu rhoi triniaeth ddeintyddol i chi.

Os oes gennych chwydd yn eich wyneb neu'ch ceg hefyd, ewch i weld ein pwnc Chwyddo (ceg ac wyneb) am gyngor.

Beth fydd y deintydd yn ei wneud 

Bydd y deintydd yn asesu eich dant ac yn rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau triniaeth.

Efallai bydd yn rhaid i chi dalu am eich apwyntiad. Darllenwch fwy am gostau deintyddol y GIG.

Beth gellir ei wneud tra byddwch chi'n aros?

  • llyncwch boenleddfwyr fel parasetamol neu Ibuprofen (dilynwch gyfarwyddiadau'r dos ar y pecyn). Cofiwch y gall enwau brand gwahanol gynnwys yr un poenleddfwyr. 
  • bwytwch ddiet meddal ac osgoi cnoi ar y dannedd hynny os ydynt yn dyner 
  • osgowch fwydydd a diodydd poeth neu oer iawn (e.e. diodydd poeth, hufen iâ)

Os byddwch angen cyngor ar ba boenleddfwyr i'w cymryd, cysylltwch â gweithiwr deintyddol proffesiynol neu fferyllydd. 

Osgowch 

  • fwyta bwydydd sy'n felys, yn boeth iawn neu'n oer iawn
  • ysmygu – gall wneud rhai problemau deintyddol yn waeth 

Achosion y ddannoedd 

Gall y canlynol achosi'r ddannoedd:

  • pydredd dannedd 
  • crawniad deintyddol 
  • dannedd sydd wedi cracio neu eu difrodi 
  • llenwad rhydd neu lenwad sydd wedi torri 
  • haint
  • problemau gyda ffrâm ddannedd 

Poen dargyfeiriedig yw pan fydd y ffynhonnell mewn man gwahanol i'r man lle'r ydych chi'n teimlo'r poen a gellir ei achosi gan lid y sinysau, anhwylder arleisiol-fandiblaidd neu haint y glust.

Sut i atal y ddannoedd 

Y ffordd orau o atal y ddannoedd yw trwy gadw eich dannedd a'ch deintgig mor iach â phosibl.

I wneud hyn:

  • ewch i weld eich deintydd yn rheolaidd 
  • bwytewch lai o fwydydd siwgraidd a diodydd siwgraidd 
  • brwsiwch eich dannedd ddwywaith y dydd am oddeutu 2 funud gyda phast dannedd fflworid 
  • glanhewch rhwng eich dannedd gan ddefnyddio edau ddeintiol neu frwsh rhyngddeintiol bob dydd


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/03/2024 11:32:30