Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd - Mis Hydref 2022

Caewyd Ward Panpwnton yn Ysbyty Tref-y-clawdd dros dro ar ddechrau’r pandemig COVID fel rhan o’n model ymateb i COVID. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein diweddariad ym mis Mai 2021.

Nid yw wedi bod yn bosibl ailagor y ward eto oherwydd diffyg staff nyrsio cofrestredig.

Mae ymgyrch recriwtio wedi bod ar y gweill yn ystod 2022, gan gynnwys hysbysebu mewn papurau newydd, hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, presenoldeb yng Ngharnifal a Sioe Tref-y-clawdd, a diwrnod agored recriwtio yn yr ysbyty.

Arweiniodd y diwrnod agored recriwtio at 29 o ddatganiadau o ddiddordeb mewn cyflogaeth yn Ysbyty Tref-y-clawdd ac mewn gwasanaethau iechyd a gofal lleol. Fodd bynnag, nid yw diddordeb mewn rolau nyrsio cofrestredig wedi cyrraedd y lefelau angenrheidiol ar gyfer ailagor y ward eto. Mae gwaith yn parhau ar recriwtio.

Yn y cyfamser, mae Ysbyty Tref-y-clawdd yn parhau i ddarparu ystod eang o wasanaethau iechyd a gofal ar gyfer y gymuned leol. Rydym yn darparu gwasanaethau cleifion allanol, therapïau a chanolfan geni dan arweiniad bydwragedd, ochr yn ochr â Chartref Gofal Preswyl Cottage View.

Mae'r ysbyty hefyd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer timau gofal iechyd sy'n gweithio mewn cartrefi pobl ar draws Dwyrain Sir Faesyfed.

Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn nyrsio a chyfleoedd gofal iechyd eraill gyda’r bwrdd iechyd yn Ysbyty Tref-y-clawdd ac ar draws Dwyrain Sir Faesyfed i gysylltu â ni yn powysjobs@wales.nhs.uk

Cyhoeddwyd 31/10/22  

 

Rhannu:
Cyswllt: