Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Anabledd Deallusol / Dysgu Powys

Bachgen hwyliog gydag anabledd yn y Ganolfan Adsefydlu i Blant ag Anghenion Arbennig

Beth yw anabledd dysgu?

Gellir disgrifio "Anableddau Dysgu" fel term aml-ystyr lle disgrifir unigolion sydd â gwahanol raddau o "nam ar allu deallusol" sy’n cael anawsterau gyda rhai gweithgareddau o ddydd i ddydd fel tasgau yn y cartref, datblygu sgiliau newydd, deall gwybodaeth gymhleth, a chymdeithasu ag eraill. Mae Anableddau Dysgu yn ymddangos cyn troi’n oedolyn ac yn gallu cael effaith hir dymor ar ddatblygiad.

 

Ni fydd angen cymorth ar bawb sydd ag Anabledd Dysgu gan Wasanaeth Anabledd Dysgu arbenigol - mae hyn yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn. Ystyriwch y cwestiynau isod cyn gwneud atgyfeiriad at y tîm i sicrhau eich bod yn cyfeirio at y tîm cywir:

·    Ydy’r unigolyn wedi mynychu ysgol arbennig/ lle ddatganwyd yn ysgol brif ffrwd?

·    A wnaeth yr unigolyn ennill cymwysterau yn yr ysgol?

·    Ydy’r unigolyn wedi cael diagnosis anabledd dysgu?

·    Ydyn nhw wedi gweld seiciatrydd arbenigol ar gyfer Anableddau Dysgu?

·    Ydy’r unigolyn erioed wedi cael gwybod bod ganddyn nhw anabledd dysgu?

·    A oes angen cymorth ar yr unigolyn i ddarllen?

·    Ydyn nhw’n cael trafferth yn ysgrifennu?

·    Ydy’r unigolyn yn cael anawsterau gyda chyfrifiadau rhifau syml? E.e. gweithio allan y newid o £5 ar gyfer torth o fara sy’n costio £1.20.

·    Ydyn nhw’n cael trafferth yn cyfathrebu eu hanghenion?

·    A oes angen cymorth ar yr unigolyn gyda gweithgareddau bywyd o ddydd i ddydd? E.e. Hunanofal, coginio, siopa, ayyb.

·    Ydyn nhw’n ei gweld hi'n anodd dehongli ciwiau cymdeithasol?

·    Ydy’r unigolyn yn cael trafferth rheoli ei ymddygiad?

·    Ydy’r unigolyn yn cael trafferth yn cydlynu symudiad?

·    Ydyn nhw’n cael trafferth yn dysgu sgiliau newydd?

·    Ydy’r unigolyn yn cael trafferth yn deall gwybodaeth newydd neu gymhleth?

·    A oes gan yr unigolyn nam ar y synhwyrau?

Gall sawl ateb 'ie' ddangos presenoldeb Anabledd Dysgu 

E-bostiwch y Tîm Anabledd Dysgu os hoffech weld y canllawiau gweithredol ar gyfer y Gwasanaeth Anabledd Dysgu: Powys.LearningDisabilityTeam@wales.nhs.uk

Rhannu:
Cyswllt: