Wrth i chi ganfod eich hun yn gwella o COVID-19 efallai eich bod yn dal i ddod i delerau â'r effaith y mae'r firws wedi'i chael ar eich corff a'ch meddwl.
Dylai'r newidiadau hyn wella dros amser, gall rhai gymryd mwy o amser nag eraill, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.
Mae GIG Cymru wedi datblygu ap i gefnogi oedolion sy’n gwella o COVID-19. Yr holl wybodaeth a chyngor pwysig am eich adferiad COVID mewn un lle hawdd ei gyrraedd.
Mae'n darparu fideos addysgol ymarferol a chyngor ar sut i reoli'r ystod eang o symptomau Syndrom Ôl-COVID y gallech fod yn eu profi;