Neidio i'r prif gynnwy

Camddefnyddio Sylweddau ac Alcohol

Llun o win coch yn cael ei dywallt i mewn i wydr gwin yn erbyn cefndir gwyn.

Lleihau nifer o Alcohol

Er mwyn gwella gallu eich corff i ymdopi ag unrhyw driniaethau yn y dyfodol, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn yfed o fewn y terfynau a argymhellir, neu'n is na'r terfynau hynny. 

Gall lleihau nifer yr alcohol rydych yn yfed fod yn ffordd effeithiol iawn o wella eich iechyd, rhoi hwb i'ch egni, colli pwysau ac arbed arian.

Bydd unrhyw ostyngiad yn y swm rydych chi'n ei yfed bob wythnos yn fuddiol - gyda’r cymorth cywir, mae'n haws nag yr ydych chi'n ei feddwl.

Nid oes angen i chi roi’r gorau arni’n llwyr i deimlo manteision o yfed llai.

Mae hyd yn oed gosod a chadw at ychydig o ddiwrnodau heb alcohol yr wythnos, neu gyfnewid i ddiodydd sydd â chryfder is, yn gamau gwych i'r cyfeiriad cywir.

Dyma rai pethau ymarferol y gall eich helpu.

Yn aml, nid yw pobl yn ymwybodol o'r terfynau alcohol a argymhellir. Os ydych chi'n yfed yn ystod yr wythnos, rhan fwyaf o wythnosau, er mwyn cadw risgiau iechyd yn isel, cynghorir i chi:

  • beidio ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd (dynion a menywod).
  • rhannu nifer yr alcohol rydych yn yfed dros dri diwrnod neu fwy os ydych yn yfed cymaint â 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.
  • os ydych am dorri lawr, ceisiwch fynd sawl diwrnod heb ddiod bob wythnos

Os ydych yn yfed 14 uned, mae hynny'n cyfateb i 6 peint o gwrw cryfder cyfartalog neu 10 gwydraid bach o win cryfder isel.

 


Awgrymiadau defnyddiol:

Bwyta cyn i chi yfed alcohol

A wyddoch chi fydd alcohol yn cael ei amsugno'n arafach pan fyddwch chi'n bwyta pryd o fwyd sy'n cynnwys protein a charbohydradau (e.e. cyw iâr neu bitsa) cyn neu wrth i chi yfed?

Ein Hawgrym - Os ydych chi'n meddwl eich bod yn yfed gormod, gosodwch y nod o yfed dim ond pan fyddwch chi'n bwyta.

 

Arafwch nifer eich diodydd, rhowch y gwydr i lawr rhwng pob sip; cymerwch sipiau llai.

Ydych chi wedi sylwi, os ydych yn dal gafael ar eich gwydr, eich bod yn tueddu yfed mwy? Cymerwch sipiau bach yn hytrach na yfed eich diod mewn sipiau mawr. Mae'n cymryd tuag awr (hirach i fenywod) i'ch afu brosesu un ddiod gyffredinol.

Ein Hawgrym - Ceisiwch ddefnyddio gwydr sy’n llai, gwnewch eich diodydd alcoholig yn fwy gwan neu newidiwch i ddiod alcohol is. Byddwch yn lleihau nifer yr alcohol rydych yn yfed heb hyd yn oed sylweddoli.

 

Mesurwch eich diodydd a gosodwch derfyn

Ydych chi'n gwybod faint o ddiodydd rydych chi'n eu hyfed? Gartref, arllwyswch ddiod gyffredinol a chymharwch hynny â'r hyn rydych chi'n ei yfed.

Ein Hawgrym - Gosodwch derfyn i chi'ch hun ar yr hyn y byddwch yn ei yfed ar ddiwrnod penodol. Dyna’r ffordd byddwch chi'n cymryd rheolaeth dros y sefyllfa.


Lleihau'r Defnydd o Gyffuriau

Gall fod yn anodd cymryd y cam cyntaf hwnnw ac ystyried eich defnydd o gyffuriau, ond gall gael effaith fawr ar ba mor iach a hapus ydych chi.

Gall unrhyw gyffur fynd yn broblemus, boed yn gocên, poenladdwyr presgripsiwn neu ganabis. Does dim rhaid eich bod yn cymryd cyffuriau bob dydd er mwyn iddo fod yn broblem. Gall dibyniaeth ar gyffur droi’n gorfforol, yn seicolegol neu'r ddau.

Efallai eich bod wedi sylwi na allwch wneud pethau bob dydd heb ddefnyddio cyffuriau yn gyntaf, neu efallai eich bod wedi profi rhyw fath o ddiddyfnu pan nad ydych yn defnyddio.

Efallai bod pobl eraill wedi gweld newid yn eich ymddygiad, neu efallai eich bod wedi dechrau cymryd risgiau sy'n peryglu eich iechyd neu'ch diogelwch.

Os ydych chi'n ystyried cymryd camau i roi'r gorau i gymryd cyffuriau neu dorri i lawr, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Mae'n llawer haws gwneud newidiadau cadarnhaol pan fydd gennych help a chefnogaeth gan bobl eraill.

Dyma bethau i feddwl amdanynt cyn i chi ddechrau:

  • Os ydych yn ddibynnol ar gyffuriau, siaradwch â gweithiwr proffesiynol cyn rhoi'r gorau i ddefnyddio'n sydyn, fel y gallwch reoli unrhyw symptomau diddyfnu’n ofalus.
  • Siaradwch â'ch meddyg am eich pryderon.
  • Os gallwch chi, siaradwch â theulu a ffrindiau am eich defnydd o gyffuriau.·  
  • Ymunwch â grŵp cymorth gan gymheiriaid fel Narcotics Anonymous

Adnoddau defnyddiol lleol:

 

 

 


Adnoddau defnyddiol ar-lein:

 

Rhannu:
Cyswllt: