Mae hunanladdiad yn destun pryder mawr ym maes iechyd y cyhoedd ac felly’n bwnc sydd yn bendant er budd y cyhoedd.
Er y gall adrodd mewn modd sensitif roi gwybodaeth i’r cyhoedd a’u haddysgu am hunanladdiad a’r arwyddion i wylio amdanynt, mae yna dystiolaeth ymchwil gadarn a chyson bod rhai ffyrdd o adrodd newyddion yn arwain at gynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad.
Gall sylw yn y cyfryngau ddylanwadu ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn mewn argyfwng a’u credau ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae’r ymchwil yn dangos bod rhai mathau o ddarluniadau yn y cyfryngau, fel disgrifio dull yn eglur a gorliwio a gormod o sylw, yn gallu arwain at ymddygiad hunanladdol dynwaredol ymysg pobl fregus.
Mae’r Samaritans Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cyfryngau defnyddiol ar adrodd am hunanladdiad.
Deg peth i'w cofio wrth adrodd am hunanladdiad
- Peidiwch ag adrodd am ddulliau hunanladdiad mewn erthyglau, fel dweud bod rhywun wedi marw trwy grogi, yn arbennig mewn penawdau.
- Cofiwch gynnwys cyfeiriadau at y ffaith bod modd atal hunanladdiad a nodi ffynonellau cymorth, fel llinell gymorth y Samariaid. Gall hyn annog pobl i geisio cymorth, a allai achub bywydau. Pan mae bywyd yn anodd, mae’r Samariaid yma – dydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch eu ffonio am ddim ar 116 123, anfon neges e-bost at jo@samaritans.org, neu fynd i www.samaritans.org i ddod o hyd i’r gangen agosaf. Os hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg, ffoniwch am ddim ar 0808 164 0123 pob dydd rhwng 7pm ac 11pm.
- Cofiwch osgoi penawdau dramatig a thermau cryf fel ‘epidemig o hunanladdiadau’. Peidiwch byth ag awgrymu bod rhywun wedi marw ar unwaith neu fod ei farwolaeth yn gyflym, yn hawdd, yn ddi-boen, yn anochel nac yn ateb i’w broblemau. Gochelwch rhag ieithwedd sy’n gorliwio neu’n clodfori hunanladdiad.
- Peidiwch â chyfeirio at safle neu le penodol fel un poblogaidd neu adnabyddus am hunanladdiadau, er enghraifft, ‘ag enw drwg’ neu ‘fan gwael’ am hunanladdiadau, a pheidiwch â rhoi gwybodaeth, fel uchder pont neu glogwyn.
- Peidiwch â defnyddio lluniau neu fideo sy’n ddramatig, yn emosiynol neu’n gorliwio. Gall gormod o ddelweddau greu swyn o gwmpas marwolaeth ac achosi i unigolion bregus oruniaethu â’r ymadawedig.
- Peidiwch â rhoi gormod o sylw i storïau a’u gosod mewn mannau rhy amlwg, fel ar frig y dudalen flaen neu fel y brif stori, a pheidiwch â’u cysylltu â storïau blaenorol am hunanladdiad.
- Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ymdrin â’r cyfryngau cymdeithasol a pheidiwch â chrybwyll na rhoi dolenni i sylwadau, neu wefannau/ fforymau sy’n hyrwyddo neu’n creu swyn o amgylch hunanladdiad. Yn yr un modd, mae’n fwy diogel peidio ag agor adrannau sylwadau ar storïau am hunanladdiad a dylid ystyried yn ofalus pa mor briodol yw hyrwyddo storïau trwy hysbysiadau gwthio.
- Dylid osgoi cyhoeddi cynnwys o nodiadau hunanladdiad neu negeseuon tebyg a adawyd gan berson sydd wedi marw. Gallant ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn uniaethu â’r ymadawedig. Gallai hefyd ramanteiddio hunanladdiad neu achosi trallod i’r teulu a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth.
- Mae dyfalu am achos hunanladdiad neu’r ‘sbardun’ amdano yn gallu gor-symleiddio’r mater a dylid ei osgoi. Mae hunanladdiad yn hynod o gymhleth a’r rhan fwyaf o’r amser nid oes un digwyddiad neu ffactor sy’n achosi i rywun wneud amdano ei hun.
- Mae pobl ifanc yn fwy agored i haint hunanladdiad. Wrth ymdrin â marwolaeth person ifanc, peidiwch â gwneud y stori’n rhy amlwg na defnyddio lluniau dro ar ôl tro, gan gynnwys mewn orielau. Peidiwch â defnyddio ieithwedd neu ddelweddau emosiynol, rhamanteiddiedig – mae ymagwedd ffeithiol, sensitif yn llawer mwy diogel. Gall sylw sy’n adlewyrchu’r materion ehangach o gwmpas hunanladdiad, gan gynnwys y ffaith bod modd ei atal, helpu i leihau risg ymddygiad hunanladdol. Cofiwch gynnwys cyfeiriadau clir ac uniongyrchol at adnoddau a sefydliadau cymorth.
Gwybodaeth Bellach