Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros

Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi yn effeithlon a dysgu sut i reoli eich symptomau wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad eich triniaeth a’ch adsefydliad.

Mae’r tudalennau Cyngor a Chefnogaeth yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar sut y gallwch wneud hyn.
Bydd hwn yn eich helpu rheoli a chwarae rhan weithredol yn eich gofal.

Pam mae’n bwysig paratoi?

Bydd paratoi yn eich helpu i: 

  • ymateb yn well i driniaeth yn y dyfodol a gwella’n gyflymach.
  • gwella eich lefelau egni, lleihau blinder a gwella eich patrwm cwsg.
  • aros yn annibynnol a gwneud rhagor o weithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd.

Gwella’ch ffitrwydd a lles cyffredinol, yn ogystal â hyrwyddo ffordd iach o fyw yn hirdymor.

Sylwch fod yr adnodd gwybodaeth hwn yn ganllaw, ac ni ddylid ei ddefnyddio ar draul unrhyw gyngor rydych wedi'i gael gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. 

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich cyflwr, cysylltwch â’ch ymarferydd gofal iechyd neu eich Meddyg Teulu.  

Deialwch 999 ar gyfer argyfyngau meddygol sy'n peryglu bywyd

 

Rhannu:
Cyswllt: