Mae’r tîm yng Ngwasanaeth Byw’n Dda Powys yn rhoi cymorth i bobl sydd eisiau byw bywyd llawn ond yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny oherwydd cyflyrau iechyd hirdymor.
Rydym wedi cynnal rhaglenni yn y Bwrdd Iechyd ers 1994 ac mae gan ein tîm amlddisgyblaethol gyfoeth o brofiad o weithio gyda phobl gyda phroblemau iechyd sy'n effeithio ar agweddau corfforol, seicolegol a chymdeithasol eu bywydau.
Ar hyn o bryd, oherwydd yr achosion o COVID-19, mae gwasanaethau ar gael trwy fideo-gynadledda a dros y ffôn er ein bod yn gobeithio cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb eto yn fuan.