Neidio i'r prif gynnwy

Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau

Potel o gyffuriau presgripsiwn a thabledi

 

 

Mae meddyginiaeth yn rhan hanfodol o gynlluniau triniaeth llawer o gleifion.  Mae cael y gorau allan o feddyginiaeth a lleihau’r niwed posibl yn bwysig i bawb.

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gymorth diogel, effeithlon a darbodus yn ymwneud â defnydd o feddyginiaeth o fewn ysbytai cymunedol Powys, y gymuned ehangach a gwasanaethau gofal sylfaenol. Gwneir hyn drwy weithio gyda meddygon, nyrsys, meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol, ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol a gofalwyr.

Mae ein tudalennau'n cynnwys gwybodaeth am reoli eich meddyginiaeth, beth i'w wneud cyn i chi fynd i'r ysbyty fel claf mewnol, storio a gwaredu meddyginiaethau yn ogystal â gwybodaeth am bresgripsiynau a meddyginiaeth dros y cownter.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch info.medicinesmanagement.powys@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01874 712641.

Cleifion / Aelodau'r Cyhoedd
Rhannu:
Cyswllt: