Mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cynghori cynnal rhaglen frechu atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref sy'n canolbwyntio ar gynnig brechlyn i'r rhai sydd fwyaf tebygol o elwa'n uniongyrchol o frechu, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n cynyddu eu risg o fynd i'r ysbyty yn dilyn haint.
Prif nod y rhaglen frechu genedlaethol COVID-19 yw atal salwch difrifol (derbyniadau i ysbytai a marwolaethau) sy'n deillio o COVID-19.
Bydd rhaglen Atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref ym Mhowys yn rhedeg rhwng 1 Hydref 2024 a 31 Mawrth 2025. Bydd clinigau'n cael eu cynnal yn ein prif ganolfannau brechu yn Y Drenewydd a Bronllys, yn ogystal ag mewn ysbytai cymunedol ledled Powys a rhai lleoliadau cymunedol.
Ar gyfer ymgyrch atgyfnerthu’r hydref 2024/2025, mae'r JCVI yn cynghori y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i: