Wedi ei ddiweddaru ddiwetha' 25 Gorffennaf 2022
Diolch i bawb sy'n helpu eu teulu, ffrindiau a chymdogion i fynychu apwyntiad yn y Prif Glinig Brechu. Eich prif apwyntiad yn y clinig brechu fydd eich cyfle cyflymaf i dderbyn y brechlyn, felly gwnewch bopeth a allwch i fynychu.
Mae prif glinigau brechu yn rhan hanfodol o'n model darparu brechlyn COVID-19.
Maent yn ein helpu i sicrhau y gallwn frechu cymaint o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ei dro wedi golygu bod y rhaglen frechu ym Mhowys wedi bod ymhlith y cyflymaf yn y DU.
Pan fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad, gellir cysylltu â’n tîm archebu i drafod opsiynau teithio a thrafnidiaeth, er enghraifft:
Os cewch eich gwahodd i fynychu Prif Glinig Brechu a GALLWCH fynychu, yna PEIDIWCH â mynychu gan y bydd hyn yn ein helpu i frechu cymaint â phosibl cyn gynted â phosibl.