Mae bod yn heini yn fuddiol iawn. Bydd yn eich helpu i gysgu'n well, cynnal pwysau iach, rheoli eich lefelau straen a gwella eich lefelau egni - gall y rhain i gyd helpu gwella ansawdd eich bywyd. Mae bod yn heini yn arbennig o bwysig os ydych yn aros am neu'n cael triniaeth ar hyn o bryd. Bydd yn helpu cryfhau eich calon a'ch ysgyfaint a fydd yn ei dro yn helpu eich corff i ymdopi ag unrhyw driniaethau presennol neu driniaethau yn y dyfodol.
Mae unrhyw weithgaredd sy'n gwneud i chi deimlo ychydig allan o anadl yn fuddiol. Os ydych eisoes yn actif, parhewch fel yr ydych, neu os ydych yn gallu, ceisiwch wneud ychydig mwy. Os nad ydych yn actif iawn ar hyn o bryd neu'n teimlo y gallwch wneud mwy, dyma'r amser i roi cynnig arni. Dechreuwch heddiw, peidiwch â'i hosgoi. Mae diffyg symudiad yn wael i'n cyrff, mae ein cyhyrau'n dirywio’n gyflym ac mae hyn yn effeithio ar ein cryfder a'n cydbwysedd. Mae ein cyhyrau, esgyrn a chymalau yn hoffi cael eu symud, er eu bod weithiau yn cwyno ychydig.
Trafodwch unrhyw bryderon am eich gallu i wneud ymarfer corff gyda'ch tîm gofal iechyd neu feddyg teulu os ydych chi'n teimlo bod ei angen. Peidiwch ag oedi. Mae ymarfer corff yn rhan bwysig iawn o'ch gwaith paratoi ar gyfer unrhyw driniaeth a'ch gallu i gwblhau unrhyw driniaeth.
Os ydych yn sigledig ar eich traed neu os ydych wedi cwympo o'r blaen, dylech gymryd gofal ychwanegol wrth symud o gwmpas. Rydym am i chi gadw’n heini, ond nid ydym am i chi gwympo neu anafu.
Gofynnwch i’ch Meddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol am wasanaethau yn eich ardal leol am gefnogaeth ychwanegol os oes angen.