Mae cleifion y GIG sy’n wynebu risg uwch yn sgil COVID-19 yn gymwys i gael triniaeth gartref.
Brechu yw’r ffordd bwysicaf o hyd i ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed.
Gallwch gael triniaethau gwrthfeirysol fel rhan o’ch gofal safonol os ydych yn wynebu risg uchel o gael COVID-19 yn ddifrifol.
Gall pobl sydd â risg uchel o fod yn ddifrifol sâl yn sgil COVID-19 dderbyn triniaeth gartref.
Mae’r grŵp risg uchaf yn cynnwys pobl sydd â’r cyflyrau canlynol:
Os ydych yn perthyn i’r grwpiau a restrir uchod, ac yn profi’n bositif ar gyfer COVID-19, gallech fod yn gymwys i gael triniaethau. Mae triniaethau’n helpu i reoli eich symptomau a lleihau’r risg o fynd yn sâl oherwydd COVID-19.
Mae’r brechlyn COVID-19 yn effeithiol iawn wrth atal salwch difrifol yn sgil COVID-19. Mae llawer o bobl bellach yn wynebu risg lawer yn llai o gael y clefyd yn ddifrifol. Os ydych yn cael canlyniad positif i brawf COVID-19, cewch eich asesu i weld a ydych yn gymwys i gael triniaeth.
Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau a restrir uchod, dylech gadw profion llif unffordd yn eich cartref.
Cymerwch brawf cyn gynted ag y byddwch yn cael symptomau COVID-19. Os yw eich prawf yn negatif ond bod eich symptomau’n parhau, dylech gymryd prawf arall y diwrnod wedyn (diwrnod 2). Os yw’n parhau’n negatif, gwnewch brawf arall ar ddiwrnod 3. Os yw eich profion ar ddiwrnodau 2 a 3 yn negatif, mae’n annhebygol bod COVID-19 arnoch.
Os nad oes gennych brofion llif unffordd gartref, gallwch eu harchebu ar-lein (gov.uk).
Rhaid i chi gofnodi’r canlyniad ar-lein neu drwy ffonio 119. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
Os ydych yn gymwys i gael triniaeth, bydd rhywun fel arfer yn cysylltu â chi o fewn 48 awr o pan wnaethoch gofnodi canlyniad eich prawf. Efallai y byddwch yn derbyn neges destun neu alwad ffôn yn cynnig triniaeth. Mae’n bwysig eich bod yn ateb y neges destun.
Naill ai atebwch y neges drwy roi: “ADVICE” - i siarad ag aelod o staff i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau o ran triniaethau posibl sydd ar gael i chi.
Neu atebwch “DECLINE” – i wrthod triniaeth.
Ar ôl i chi ateb, bydd rhywun yn cysylltu â chi i asesu a yw triniaeth yn iawn i chi a pha driniaeth sydd fwyaf addas.
Os oes symptomau gennych ac nad oes rhywun wedi cysylltu â chi o fewn 48 awr o gofnodi canlyniad positif i brawf llif unffordd:
Ffoniwch GIG 111 gan ddweud:
Bydd y person ochr arall y ffôn yn cynnig gwasanaeth nyrs i asesu’ch symptomau. Efallai y bydd yn eich cyfeirio at y Gwasanaeth Gwerthfeirysol Cenedlaethol i gael asesiad i wneud yn siŵr eich bod yn cael y driniaeth fwyaf addas ar eich cyfer chi.
Xevudy (sotrovimab). Drip a roddir drwy’r faich (trwytho) mewn un apwyntiad, fel arfer yn yr ysbyty.
Pan fydd rhywun yn cysylltu â chi, byddwch yn trafod pa driniaeth allai fod fwyaf addas ar eich cyfer. Unwaith y byddwch yn gwybod pa driniaeth y byddwch yn ei derbyn, cewch gyngor ar sut a ble i gael eich triniaeth.
Rhagor o wybodaeth am driniaethau COVID-19.
Gwybodaeth am COVID-19 i gleifion yng Nghymru (Saesneg yn unig)
Gwefan y Gwasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol
Dylech gysylltu â’ch meddygfa, clinig arbenigol neu GIG 111 os ydych yn:
Os hoffech gael triniaeth COVID-19 nawr, ffoniwch GIG 111 a byddant yn gallu rhoi’r arweiniad addas i chi.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal a bod gennych symptomau COVID-19, y ffordd gyflymaf o gael triniaeth (os ydych yn gymwys) yw gwneud prawf llif unffordd a chofnodi’r canlyniad ar-lein (gov.uk). Bydd aelod o staff ar gael i’ch helpu os bydd angen.
Ar yr un pryd, dylai aelod o staff drefnu bod eich bwrdd iechyd yn gwneud math arall o brawf i weld a oes gennych salwch anadlol arall fel y ffliw.