Elusen Iechyd Powys yw elusen swyddogol y GIG (elusen gofrestredig rhif 1057902) ar gyfer Powys. Mae ein Helusen yn cefnogi lles yr holl staff, cleifion a gwirfoddolwyr y Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ogystal â'n cymunedau lleol.
Os ydych chi'n rhoi gwaed i wasanaeth GIG neu ysbyty ym Mhowys, mae'n dod drwy ein Helusen. Pan fyddwch yn rhoi rhodd i'n Helusen, ni chaiff ei ddefnyddio i gymryd lle cyllid y GIG.
Pwy bynnag rwyt ti’n dewis addo cefnogaeth iddo, mae Elusen Iechyd Powys yn yma i ti. Rydym yn sicrhau bod eich rhoddion hael yn cael eu defnyddio i newid bywydau'r bobl rwyt ti am eu cefnogi. Ein teuluoedd, ffrindiau a chymdogion. Y bobl sydd wedi gofalu amdanom ni neu ein hanwyliaid. Mae pob ceiniog yn cael ei chadw o fewn ein cymuned ym Mhowys am achosion sy'n bwysig i ti. Ar gyfer Powys.
Diolch am ystyried cyfraniad. Rydym yn defnyddio rhoddion i newid bywydau a gofalu am ein cymuned. O wella wardiau a gerddi i wella cysur cleifion a staff, darparu offer newydd neu gyflwyno prosiectau celf therapiwtig – rydym yn defnyddio eich rhoddion lle mae eu hangen fwyaf, sy'n cael ei ddewis gan staff a chleifion.
Gallwch ofyn i'ch rhodd gael ei defnyddio ar gyfer achos penodol, er enghraifft i brynu darn o offer neu i fynd i wasanaeth neu grŵp o staff dynodedig (cyn belled â bod modd i ni wneud hynny mewn ffordd gyfreithlon). Dim ond pan wyt ti’n gwneud eich rhodd y mae angen i ti wneud hyn yn glir. Os na, byddwn yn defnyddio'ch rhodd lle mae ei hangen fwyaf ar draws Powys.
Dyma ychydig o ffyrdd i wneud rhodd:
Dylet hefyd ystyried gwneud datganiad cymorth rhodd i gynyddu gwerth eich rhodd hyd at 25%. Mae mwy o wybodaeth am gymorth rhodd yma (Saesneg yn unig).
Os oes angen help arnoch i benderfynu sut i wneud eich rhodd, sut yr hoffech iddo gael ei ddefnyddio neu a ddylid defnyddio Cymorth Rhodd, gallwch gysylltu â'n tîm trwy PTHB.Charity@wales.nhs.uk neu, ffoniwch ni ar 07500 792 330.
Lle gallaf ddysgu mwy am Elusen y Bwrdd Iechyd?
Facebook: @PowysCharity
Twitter: @PowysCharity
Gallit ti weld ein canllawiau ariannu Elusen Iechyd Powys yma (Saesneg yn Unig).
Gallwch weld rhoddion a chanllawiau rhoddion i staff y Bwrdd Iechyd yma (Saesneg yn unig).
Os hoffet ti ddarganfod mwy am godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Powys, gweler ein Pecyn Gwybodaeth ar Codi Arian yma (Saesneg yn unig).
Gallwch weld ein Strategaeth Elusennau ar gyfer 2022-2025 yma (Saesneg yn unig).
Gall staff BIAP hefyd ddod o hyd i FCP 007 Polisi Cronfeydd Elusennol ar SharePoint.
Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys yn ffordd ystyrlon o gyfrannu at achos sydd yn agos atoch chi.
Dyma yw’r cwestiynau mwyaf cyffredin am adael cymynrodd.
Clychlythyr Elusen Iechyd Powys Medi 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen Iechyd Powys Awst 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen Iechyd Powys Gorffenaf 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen Iechyd Powys Mehefin 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Mai 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Ebrill 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Mawrth 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Chwefror 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Ionawr 2023 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Rhagfyr 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Tachwedd 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Hydref 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Medi 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Awst 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Gorffenaf 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Mehefin 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Mai 2022 (Saesneg yn Unig)
Clychlythyr Elusen BIAP Ebrill 2022 (Saesneg yn Unig)
Cysylltwch â PTHB.Charity@wales.nhs.uk i ofyn am wybodaeth mewn fformat hygyrch.
Mae Cronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (yr Elusen) wedi'i chofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau - Rhif Cofrestredig 1057902.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) wedi'i ddynodi'n Ymddiriedolwr Corfforaethol ein Helusen. Er mwyn cynorthwyo'r Ymddiriedolwr Corfforaethol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan y cofrestriad hwn, sefydlwyd Pwyllgor Cronfa Elusennol gyda phwerau dirprwyedig i reoli'r Elusen. Gellir dod o hyd i fanylion y Pwyllgor yn y ddolen ganlynol: Pwyllgor Cronfeydd Elusennol.