Neidio i'r prif gynnwy

Ymholiadau i'r Wasg a'r Cyfryngau

Gallwch gyfeirio unrhyw Ymholiadau’r Wasg i swyddfa'r wasg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn:

Mae Swyddfa’r Wasg fel arfer yn cael ei staffio rhwng 9y a 5yh rhwng dydd Llun a dydd Gwener (heblaw am wyliau banc). Am unrhyw ymholiadau’r wasg sydd angen sylw brys ac nad ydynt yn gallu aros i swyddfa’r wasg agor, ffoniwch switsfwrdd Ysbyty Aberhonddu a gofynnwch i siarad â’r Cyfarwyddwr Ar Alwad.

Mynediad i Ysbytai a Chanolfannau Iechyd BIAP

Rydym yn ddiolchgar am berthynas gadarnhaol gyda'r cyfryngau i'n helpu rhannu gwybodaeth a newyddion gyda'n cymunedau.

Mae ein hysbytai a chanolfannau iechyd yn darparu gofal clinigol i bawb, gan gynnwys y bobl sy’n agored i niwed, ac felly’n mae’n hanfodol bod eu preifatrwydd ac urddas yn cael eu parchu bob amser.

Yn sgil hwn felly, mae gennym ganllawiau ar sut yr hoffwn i’r wasg ymddwyn er mwyn achosi cyn lleied o anghyfleustra i gleifion a staff â phosibl: 

  • Rhaid cysylltu â Thîm Ymgysylltu a Chyfathrebu gydag unrhyw gais i newyddiadurwr ymweld ag ysbyty neu ganolfan iechyd. Gall newyddiadurwyr gysylltu â’r tîm yn y ffyrdd a nodwyd uchod. 
  • Dim ond ar ganiatâd penodol Tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu a thîm rheoli lleol y dylid parhau gyda’r ymweliad.
  • Ni chaniateir i’r cyfryngau cymdeithasol gymryd unrhyw ffotograffau na recordiadau fideo/sain ar safleoedd ysbyty neu ganolfannau iechyd heb gymeradwyaeth.
  • Dylai unrhyw newyddiadurwr sy’n ymweld ag ysbyty neu safle iechyd gyhoeddi ei hun yn y pwynt cyswllt enwebedig y cytunwyd arno fel rhan o'r trefniadau ymweld.

Mae gan ein staff ddyletswyddau cyfreithiol a phroffesiynol i gadw cyfrinachedd, ac mae'n ofynnol iddynt sicrhau nad yw cleifion yn cael eu dangos ar y cyfryngau oni bai eu bod yn rhoi eu caniatâd penodol. Mae ffotograffiaeth neu recordiad sain/fideo heb gydsyniad yn peryglu torri cyfrinachedd ac urddas unigolyn - cofiwch y gallai pobl sy'n ymweld ag Ysbyty fod newydd dderbyn newyddion drwg, neu efallai eu bod yn ymweld â pherthynas neu ffrind sâl.

Rhannu:
Cyswllt: