Diweddariad ar Drefniadau Ymweld ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (diweddarwyd diwethaf 3 Ionawr 2023)
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi ichi ymweld â’ch anwyliaid. Gofynnwn i chi wneud hynny yn ddiogel er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf bregus rhag haint.
Ein polisi yw bod gofyn i bob ymwelydd i'n hysbytai a'n clinigau wisgo gorchuddion wyneb, i barhau i olchi eu dwylo'n aml, ac i barchu pellter cymdeithasol.
Er bod COVID-19 ac afiechydon anadlol eraill yn dal i gylchredeg, byddwn yn rheoli ymweliadau ac yn eu blaenoriaethu ar sail diogelwch.
Mae polisi lleol y bwrdd iechyd yn cynnwys y pwyntiau allweddol canlynol i ymwelwyr:
- Peidiwch â mynd i'r ysbyty os ydych chi'n teimlo'n sâl, os oes gennych symptomau sy'n gysylltiedig ag unrhyw haint anadlol fel COVID-19 a'r ffliw, yn cael symptomau tebyg i oerfel, dolur rhydd a chwydu, twymyn, os oes gennych frech neu os ydych mewn cyfnod o ynysu.
- Byddwch yn ymwybodol y gall rheolau ymweld newid ar fyr rybudd oherwydd cyfraddau trosglwyddo COVID-19, nifer y cleifion mewn ysbytai sydd â COVID-19 ac unrhyw achosion eraill y gellir eu profi yn yr ysbyty. Gall y sefyllfa newid yn gyflym felly mae'n bwysig bod aelodau'r cyhoedd yn gwirio gyda'r ward / adran cyn ymweld.
- Bydd pob ymweliad drwy apwyntiad yn unig a gofynnir cwestiynau sylfaenol i bob ymwelydd am eu hiechyd cyn cytuno ar ymweliad ar gyfer trefniadau ymweld eithriadol a chyffredinol, er mwyn cadw cleifion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel.
- Bydd angen cyfyngu ymweliadau pan fydd achosion neu gleifion â heintiau ar y ward. Gall ymweliadau â chleifion sydd ar wahân ar hyn o bryd oherwydd salwch ond ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol ac mewn cytundeb â staff y ward.
Mae’r camau hyn mewn lle i atal haint ac i wneud ymweliadau mor ddiogel â phosibl.
Arweiniad ymweld manwl
- Trefniadau ymweld cyffredinol:
- Mae Ymweliadau Rhithwir ar gael mewn llawer o wardiau a gellir trefnu hyn gyda’r ward
- Efallai na chaniateir ymwelwyr mewn ardaloedd lle mae achosion neu amheuaeth o salwch heintus (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol a amlinellir isod)
- Gwiriwch gyda'r Ward / Adran am gyfleoedd ac amseroedd ymweld
- Mae ymweliadau yn parhau i fod wedi'i gyfyngu i 2 o ymwelwyr sydd wedi’i henwi fesul claf (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol fel y cytunwyd arnynt gyda'r Prif Nyrs )
- Bydd plant yn cael ymweld pan yng nghwmni oedolyn
- Mae ymweld yn parhau yn ôl disgresiwn rheolwr y ward ac efallai y bydd angen torri rhai ymweliadau'n fyr neu eu canslo- argymhellir cyfnod ymweld o 2 awr yn unig.
- Amgylchiadau arbennig ar gyfer ymweld â chlaf mewnol:
- Claf yn cael gofal diwedd oes yn nyddiau olaf ei fywyd
- Gofalwr/rhiant neu warcheidwad/cynorthwywr/cynorthwyydd personol cyfarwydd i gynorthwyo mewn darpariaeth gofal fel y cytunwyd arno gyda’r ward/adran
- Gall cleifion gael cwmni gyda nhw lle bo hynny'n briodol ac mae angen cynorthwyo gyda chyfathrebu a/neu i ddiwallu eu hanghenion iechyd, emosiynol, crefyddol neu ysbrydol fel y cytunwyd â ward/adran
- Gofynnir i bob ymwelydd:
- Beidio â mynd i'r ysbyty os ydynt yn teimlo'n sâl, os oes ganddynt symptomau sy'n gysylltiedig ag unrhyw haint anadlol fel COVID-19 a'r ffliw, yn cael symptomau tebyg i oerfel, dolur rhydd a chwydu, twymyn, os oes ganddynt frech neu os ydynt mewn cyfnod o ynysu.
- Ddangos hylendid dwylo da (golchi dwylo) i leihau'r risgiau iddyn nhw eu hunain, ymwelwyr eraill, cleifion a staff a byddant yn cael eu hysgogi i wneud hynny wrth gyrraedd
- Wisgo mwgwd wyneb ymlusgol dŵr bob amser tra yn safle'r Ysbyty - bydd y rhain ar gael wrth fynd i mewn i safle'r Bwrdd Iechyd
- Cadw pellter cymdeithasol
- Gadw at amseroedd apwyntiadau ymweld (peidiwch â chyrraedd yn gynt na’r amser penodedig)
- Ar ôl cyrraedd y ward, dilyn cyfarwyddiadau a mynd yn uniongyrchol at y person yr ydych yn ei ymweld
- Gofynnwch am gyngor gan y Rheolwr Ward am eitemau personol
- Dilynwch ganllawiau ymweld bob amser
- Gwasanaethau mamolaeth:
- Bydd un person yn gallu mynd gyda'r person sy'n cael ei apwyntiad clinig cynenedigol neu sgan Mamolaeth.
- Rhaid i bob partner/ymwelydd i ardaloedd Geni Mamolaeth a Chlinigol wisgo gorchudd wyneb tra yn adeilad yr ysbyty, oni bai fod ganddynt eithriad meddygol. Byddem hefyd yn gofyn i unrhyw bartneriaid sy’n profi'n bositif am COVID-19 neu'n dangos symptomau, i beidio â mynychu'r apwyntiad.
- Rydym yn parhau i gefnogi cydymaith geni i fenywod sy'n rhoi genedigaeth yng Nghanolfannau Geni Powys. Ar gyfer sefyllfaoedd lle gallai menywod gael rheswm i ddod â phlant i apwyntiad, cysylltwch â’ch Bydwraig i drafod amgylchiadau. I Fenywod sy'n rhoi genedigaeth mewn Ysbytai Cyffredinol Dosbarth cyfagos, trafodwch y canllawiau ymweld perthnasol ar gyfer yr ysbytai perthnasol gyda'ch Bydwraig.
-
- Apwyntiadau wedi'u trefnu (e.e. cleifion allanol):
- Rydym yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau eithriadol lle mae angen i ymwelydd fynd gyda chlaf neu ddefnyddiwr gwasanaeth i apwyntiad wedi'i drefnu. Er enghraifft: i fod yn gwmni i bobl â namau gwybyddol; lle gall ymwelydd roi cymorth os yw'r driniaeth yn debygol o achosi gofid; neu, lle byddai person ag anabledd dysgu, materion iechyd meddwl, dementia, neu awtistiaeth yn profi gofid pe na bai nhw'n cael cwmni. Siaradwch â'r tîm gofal iechyd am y trefniadau sydd ar waith ar gyfer apwyntiadau wedi'u trefnu, ac i drafod eich anghenion a'ch amgylchiadau penodol.
Mae'r canllawiau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson.
Mae ein trefniadau ymweld lleol yn adlewyrchu’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r canllawiau llawn ar gael yn https://llyw.cymru/canllaw-ymweld-ysbytai-yn-ystod-coronafeirws-canllawiau-ar-agoriad