Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd Ansawdd

Mae'r ddyletswydd ansawdd wedi bod mewn grym ers 1 Ebrill 2023.

Mae’n berthnasol i holl gyrff y GIG yng Nghymru. Mae hefyd yn berthnasol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'u swyddogaethau iechyd.

Mae gan y Ddyletswydd ddau brif nod:

  • Gwella ansawdd gwasanaethau iechyd.
  • Gwella canlyniadau pobl yng Nghymru.​​​​​​

Mae'r ddyletswydd ansawdd yn berthnasol i bopeth a wnawn yn GIG Cymru, gan gynnwys os ydym yn gweithio mewn rolau clinigol neu wasanaethau anghlinigol. 

Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i sicrhau gwell ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau i'n poblogaeth.

Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal wedi eu datblygu i'n helpu ni ymgorffori'r ddyletswydd ansawdd yn ein gwaith. Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal yn cynnwys chwe pharth o ansawdd a chwe galluogwr o ansawdd. 

Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal: Diogel, Amserol, Effeithiol, Effeithlon, Teg, Person Ganolog.

Mae Dyletswydd Ansawdd yn cynnwys gofyniad i ni gyhoeddi gwybodaeth am ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a'u comisiynu ar eich rhan.

Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth hon mewn nifer o ffyrdd:

Yn ystod 2024 byddwn hefyd yn cyhoeddi ein Hadroddiad Ansawdd Blynyddol cyntaf fel rhan o'r Ddyletswydd Ansawdd newydd.

Mae fideo byr ar gael isod sy’n esbonio beth mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn ei olygu i bob un ohonom.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddyletswydd Ansawdd, gan gynnwys y canllawiau statudol y mae'n ofynnol i'r GIG eu dilyn, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth genedlaethol am ansawdd gwasanaethau iechyd

Dyma rai adnoddau o wybodaeth genedlaethol am ansawdd gwasanaeth iechyd yng Nghymru:

  • Gwefan StatsCymru sy’n cynnig ystadegau gwladol am Berfformiad a Gweithgaredd y GIG.

 

 
Rhannu:
Cyswllt: