Mae Cymorth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Helpa Fi i Stopio Powys yn wasanaeth y GIG arbenigol ym Mhowys sy’n cynnig cefnogaeth i ysmygwyr sydd angen cymorth i roi’r gorau i ysmygu.
Mae ymchwil wedi dangos bod pobl dair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu gyda chymorth Helpa Fi i Stopio nag os ydynt ar eu pennau eu hunain.
Mae Helpa Fi i Stopio yn rhoi cymorth i bobl sydd am roi'r gorau i ysmygu gyda 12 wythnos AM DDIM o feddyginiaethau a chefnogaeth wythnosol gan Ymgynghorydd Rhoi’r Gorau i Ysmygu pwrpasol.
Gallwch gyrchu Helpa Fi i Stopio mewn sawl ffordd:
Os hoffech gyfeirio'ch hun i'r gwasanaeth, gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio | Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu yng Nghymru ar 0800 085 2219 neu tecstiwch HMQ i 80818 neu gallwch e-bostio stopsmoking.powys@wales.nhs.uk
Beth mae Helpa Fi i Stopio yn ei gynnig?
Gwyliwch stori rhoi'r gorau i ysmygu Paul:
Mae'r tîm Helpa Fi i Stopio yn cyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb grŵp ac 1:1 yng nghymunedau Powys.
Bydd y sesiynau cymunedol yn cynnwys saith wythnos o gymorth ymddygiadol i'ch helpu chi roi'r gorau i ysmygu yn llwyddiannus, ochr yn ochr â therapïau disodli nicotin am ddim i helpu rheoli eich chwant.
Sesiynau Helpa Fi i Stopio wyneb yn wyneb yw'r llwybr mwyaf llwyddiannus i roi'r gorau i ysmygu. Mae llawer o glinigau yn cael eu rhedeg ledled Powys, cysylltwch â Helpa Fi i Stopio i ddod o hyd i'ch clinig lleol ac archebu eich lle heddiw.
Ffoniwch 0800 085 2219 neu tecstiwch HMQ i 80818 neu gallwch e-bostio stopsmoking.powys@wales.nhs.uk
Felly beth am ymuno â’r 15,000 person yng Nghymru sy’n derbyn cefnogaeth gan Helpa Fi i Stopio bob blwyddyn? Mae’r tîm Helpa Fi i Stopio yma i helpu chi ar eich taith i roi’r gorau iddi.
Bydd tîm Rhoi’r Gorau i Ysmygu Powys yn eich cefnogi i roi'r gorau i ysmygu yn ystod ac ar ôl eich beichiogrwydd a byddant hefyd yn cefnogi unrhyw un yn eich cartref sy'n ysmygu i roi'r gorau iddi.
Gall cynghorwyr ymroddedig eich cefnogi fel rhan o'ch gofal cynenedigol.
Gall eich bydwraig rannu mwy o wybodaeth am Helpa Fi i Stopio a fydd yn sicrhau eich bod yn cael mynediad at hyn fel rhan o'ch gofal cynenedigol. Gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio | Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu yng Nghymru 0800 085 2219 neu tecstiwch HMQ i 80818 neu gallwch e-bostio stopsmoking.powys@wales.nhs.uk
Mae cefnogaeth Helpa Fi i Stopio Mamolaeth yn cynnwys:
Os ydych chi'n ysmygwr ac i fod i ymweld ag un o'n safleoedd ac yn meddwl y gallech gael trafferth ymatal rhag ysmygu, cysylltwch â Helpa Fi i Stopio | Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu yng Nghymru ar 0800 085 2219 neu tecstiwch HMQ i 80818 neu gallwch e-bostio stopsmoking.powys@wales.nhs.uk a siarad ag un o'n Hymgynghorwyr a all eich helpu gwneud ymgais i roi'r gorau iddi a pharhau i roi'r gorau iddi am byth.
Os ydych chi'n glaf mewnol, gall staff ofyn i chi a ydych chi'n ysmygu i'n helpu ni ddarparu'r gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i ymdopi ag ysmygu neu fêpio yn ystod eich arhosiad fel claf mewnol. Gallwch hefyd fanteisio ar ein tîm Helpa Fi i Stopio am gyngor arbenigol a meddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu am ddim i wneud eich arhosiad yn fwy cyfforddus.
Mae llawer o fferyllfeydd cymunedol ar draws Powys yn cynnig cymorth un i un i roi'r gorau i ysmygu gyda Fferyllydd achrededig neu Dechnegydd Fferylliaeth.
Mae cefnogaeth fferyllfa yn cynnwys:
Dilynwch y ddolen isod i weld pa fferyllfeydd sy'n darparu gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu:
Gwasanaethau yn eich ardal chi - Helpa Fi i Stopio
Rydyn ni i gyd eisiau byw bywydau iachach a hirach a rhoi'r gorau i ysmygu ar dir ein hysbytai a mannau lle mae ein plant yn tyfu, a gallwn ni helpu pobl Powys i wneud hyn.
Ym mis Mawrth 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru hi'n anghyfreithlon i unrhyw un ysmygu ar dir ysbytai, tiroedd ysgolion, meysydd chwarae a llety gwyliau yng Nghymru.
Gall bob un ohonom wneud ein rhan i gydymffurfio â'r gyfraith ddi-fwg a gofynnwn yn garedig i chi symud oddi ar y safle i ysmygu wrth ymweld â'n hysbytai.
Os ydych chi'n ysmygwr ac i fod i ymweld ag un o'n safleoedd ac yn meddwl y gallech gael trafferth ymatal rhag ysmygu, ewch i Tudalen Gartref - Helpa Fi i Stopio a siaradwch ag un o'n Hymgynghorwyr a all eich helpu gwneud ymgais i roi'r gorau iddi ac aros yn ddi-fwg am byth.
Gall unrhyw un sy'n ysmygu ar dir ysbytai dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd.
Mae mwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth ddi-fwg ar gael yma: Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021 [HTML] | LLYW.CYMRU