Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn un o saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Gyda'i gilydd, mae byrddau iechyd yn cwmpasu holl dir Cymru ac yn gyfrifol am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd lleol i fynd i'r afael ag anghenion lleol.

Bob blwyddyn rydym yn derbyn cyllideb gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd a gwella iechyd i 133,000 o bobl sy'n byw ym Mhowys - sir fawr, gwledig o 2000 milltir sgwâr, tua chwarter màs tir Cymru.

Mae natur wledig iawn Powys yn golygu bod mwyafrif y gwasanaethau lleol yn cael eu darparu'n lleol, trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Ond gydag ardal mor denau ei phoblogaeth nid oes gennym y màs critigol o bobl yn lleol i ddarparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth o fewn Powys. Felly, rydym yn talu i drigolion Powys dderbyn gwasanaethau ysbyty arbenigol mewn ysbytai y tu allan i'r sir yng Nghymru a Lloegr.

Rydym bob amser yn ymdrechu i ddod â chymaint o wasanaethau â phosibl yn ôl i Bowys, gan gynnwys asesiadau a chamau dilynol ar ôl triniaeth.

 

Rhannu:
Cyswllt: