Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Rhywiol

Dwy law yn dal condom

Mae iechyd rhywiol da yn agwedd bwysig o'n lles cyffredinol.

Darganfyddwch fwy:

 

Profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol o gysur eich cartref eich hun

Gall pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru wneud cais am becyn profi cartref heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (neu STIs) am ddim drwy wefan 'Cymru Chwaraeus'. Mae pecynnau profi ar gael ar gyfer Clamydia, Gonorea, HIV, Syffilis, Hepatitis B a Hepatitis C ynghyd â chyfarwyddiadau a gynhwysir yn y pecyn ar sut i gymryd prawf sampl, a'i anfon yn ôl i'r labordy mewn amlen ragdaledig.

Dylid derbyn canlyniadau o fewn pythefnos naill ai drwy neges destun neu alwad ffôn.  Os ydych yn derbyn canlyniadau positif, bydd y Tîm Iechyd Rhywiol lleol yn cysylltu â chi, trefnu triniaeth a thrafod y canlyniadau.

www.cymruchwareus.org/

Lawrlwythwch poster brawf iechyd rhywiol yma.

Mae'r Cynllun Cerdyn-C yn wasanaeth sy'n cynnig condomau, iriad a gwybodaeth a chyngor am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed, waeth beth fo'u rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Nid oes angen i chi fod yn rhywiol weithgar i gael mynediad i'r cynllun hwn, ond mae'n well bod yn barod pe bai'r cyfle'n codi!  Mae nifer o leoliadau ar draws Powys lle gall pobl gael condomau drwy'r cynllun Cerdyn-C gan gynnwys canolfannau hamdden, unedau mân anafiadau a chlybiau ieuenctid.

Bydd y Tîm Iechyd Rhywiol ym Mhowys yn cynnal cynllun peilot chwe mis i ddarparu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol ac Atal Cenhedlu sy’n hygyrch i Bobl Ifanc o fis Medi 2021. Bydd y Tîm yn ymweld â Cholegau'r Drenewydd ac Aberhonddu unwaith y mis gan gynnig gwasanaethau cyfrinachol, gan gynnwys:  Atal Cenhedlu Brys; Profion Beichiogrwydd; mynediad i gondomau a'r Cynllun Cerdyn-C; mynediad at ddulliau atal cenhedlu a chyngor a phrofion a chyngor STIs.

Dilynwch y tîm ar Instagram @sexualhealthpowys am ddiweddariadau a sut i gael mynediad at Wasanaethau Iechyd Rhywiol ym Mhowys.

 

Rhannu:
Cyswllt: