Neidio i'r prif gynnwy

Ein Strategaeth

Darlun o strategaeth iechyd a gofal Powys

Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, a thrwy gydgynhyrchu gyda phobl Powys, rydym wedi sefydlu strategaeth ddeng mlynedd uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal ym Mhowys.

Nod ein strategaeth yw cefnogi pobl i:

  • Ddechrau'n Dda
  • Byw'n Dda
  • Heneiddio'n Dda

Byddwn yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles trwy bedair prif thema (ein "hamcanion cyflawni llesiant"):

  • Canolbwyntio ar Les
  • Help a Chefnogaeth Gynnar
  • Mynd i'r afael â'r Pedwar Mawr
  • Gofal Cydgysylltiedig

Byddwn yn cyflawni'r rhain mewn pedwar maes allweddol a fydd yn ein helpu i wneud iddo ddigwydd (ein "hamcanion galluogi llesiant"):

  • Dyfodol y Gweithlu
  • Amgylcheddau Arloesol
  • Digidol yn Gyntaf
  • Trawsnewid mewn Partneriaeth

Bydd cyflwyno'r Strategaeth yn cael ei yrru gan egwyddorion clir:

  • Gwneud Beth Sy'n Bwysig
  • Gwneud Beth sy'n Gweithio
  • Canolbwyntio ar Yr Angen Mwyaf
  • Cynnig Mynediad Teg
  • Bod yn ddarbodus
  • Gweithio Gyda Chryfderau Pobl A Chymunedau
Rhannu:
Cyswllt: