Diweddarwyd 7 Tachwedd 2022
Mae ffliw yn salwch anadlol, sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu, ac mae'n ganlyniad o haint a achosir gan y firws ffliw.
Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, yn feichiog, neu'n hŷn. Yn gyffredinol, y bobl sy'n wynebu risg uchel o COVID-19 yw'r un bobl sy'n wynebu risg uwch o fynd yn sâl iawn gyda'r ffliw.
Gall ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc.
Y llynedd yng Nghymru, cafodd mwy na miliwn o bobl eu brechlyn ffliw. Mae hynny tua un o bob tri o bobl.
Mae'n cylchredeg yng Nghymru yn bennaf yn ystod misoedd y gaeaf bob blwyddyn. Yn aml mae newidiadau bach i'r firws ffliw bob blwyddyn sy'n golygu bod angen brechu blynyddol ar gyfer yr amddiffyniad gorau.
Mae imiwneiddiad ffliw blynyddol y GIG ar gael am ddim i'r bobl sydd o fewn perygl mwyaf o gael cymhlethdodau o'r ffliw.
Os oes unrhyw rai o'r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo'n iach, rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o'r ffliw os byddwch yn ei ddal, ac fe'ch cynghorir i gael brechlyn ffliw os yw'r canlynol yn wir:
Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechlyn ffliw i'w hamddiffyn nhw a'r bobl o'u hamgylch:
Os ydych chi'n oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog, neu'n 50 oed neu'n hŷn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol. Os ydych chi'n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, gofynnwch i'ch cyflogwr ble i gael eich brechlyn.
Dylai staff cartrefi gofal a gofalwyr cartref siarad â'u fferyllfa gymunedol am gael eu brechlyn ffliw.
Os yw'ch plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, dylai eich meddygfa neu nyrs ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi'n credu y gallai'ch plentyn fod wedi colli ei frechlyn, cysylltwch â nyrs yr ysgol os yw'n oed ysgol, neu feddygfa teulu os nad yw yn yr ysgol.
Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechlyn chwistrell drwynol gan mai dyma'r brechlyn ffliw gorau iddynt. Mae'n ager ysgafn wedi'i chwistrellu i fyny'r trwyn, a gellir ei roi o ddwy oed.
Gan amlaf bydd eich brechiad ffliw tymhorol yn cael ei gynnig yn y lleoliad canlynol:
Grŵp cymwys | Ble i gael eich brechlyn ffliw |
Plant dwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2020) | Meddygfa (DS, mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed yn cael cynnig y brechlyn yn y feithrinfa) |
Plant ysgolion cynradd ac uwchradd | Plant ysgolion cynradd ac uwchradd |
Rhwng 6 mis ac o dan 18 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor | Meddygfa (DS. bydd plant oedran ysgol gynradd ac uwchradd yn cael cynnig eu brechiad ffliw yn yr ysgol) |
Menywod beichiog | Meddygfa, fferyllfa gymunedol neu, mewn rhai rhannau o Gymru gan eu bydwraig |
Cyflyrau iechyd hirdymor (oedolion) | Meddygfa neu fferyllfa gymunedol |
Pobl 50 oed neu drosodd | Meddygfa neu fferyllfa gymunedol |
Gofalwyr di-dâl | Meddygfa neu fferyllfa gymunedol |
Gofalwyr cartref | Yn gyffredinol mewn fferyllfa gymunedol |
Staff cartrefi gofal | Yn gyffredinol mewn fferyllfa gymunedol |
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol | Drwy gyflogwr |