Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid gwybodaeth

Beth yw’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth i annog awdurdodau cyhoeddus i fod yn fwy agored. Diben y Ddeddf yw sicrhau bod pob corff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored ac yn dryloyw, gan sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau cyhoeddus ar gael yn hawdd.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn cydnabod bod gan y cyhoedd yr hawl i wybod sut y caiff gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd eu trefnu a’u cynnal. Mae’r hawl gyda nhw i wybod pa wasanaethau sy’n cael eu darparu, safonau disgwyliedig y gwasanaethau hynny, y targedau sy’n cael eu gosod a’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni, ynghyd â faint sy’n cael ei wario er mwyn darparu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.

Cynllun Cyhoeddi

Er mwyn cefnogi'r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth o'r fath ac yn unol â'r Ddeddf, mae'r Bwrdd Iechyd wedi cynhyrchu Cynllun Cyhoeddi yn unol â'r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol a gynhyrchwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r cynllun yn dilyn y saith dosbarth o wybodaeth y cyfeirir atynt yn y Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol ac yn y Ddogfen Diffiniad ar gyfer Cyrff Iechyd yng Nghymru.

Rhennir mewn saith parth ar wahân sydd wedi'u rhestru isod.

Ewch i'n tudalen Cynllun Cyhoeddi i gael mwy o wybodaeth .

Cofnod Datgelu

Mae ein cofnod datgelu yn rhestru ein hymatebion i geisiadau a wnaed dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yr ydym yn teimlo sydd o fudd cyhoeddus ehangach.

Ewch i'n tudalen Cofnod Datgelu am fwy o wybodaeth.

Hawl Mynediad Cyffredinol

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn rhoi hawl mynediad i'r cyhoedd at wybodaeth nad yw'n rhan o'r Cynllun Cyhoeddi. Isod mae manylion am sut y gall aelodau'r cyhoedd wneud ceisiadau am wybodaeth i'r Bwrdd Iechyd a'r fath o wybodaeth sydd ar gael iddynt.

Bydd y Bwrdd Iechyd dim ond yn rhannu gwybodaeth a fyddai'n cael ei rhannu ag unrhyw un a ofynnodd amdani, neu wybodaeth sy’n addas i'r cyhoedd ei gweld. Nid yw'n ystyried pwy sy'n gofyn am y wybodaeth a pham maen nhw ei eisiau.

Gall aelodau'r cyhoedd ofyn am unrhyw wybodaeth y maent yn credu bod y Bwrdd Iechyd ei chadw. Er hyn, ni ellir rhannu rhai darnau o wybodaeth, er enghraifft, gwybodaeth y byddai'n annheg rhannu pe bai’n datgelu manylion personol am rywun arall.

Rhaid gwneud pob cais am wybodaeth yn ysgrifenedig, er enghraifft, mewn llythyr neu e-bost, gan nodi eich enw, rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost i'r Bwrdd Iechyd ymateb iddo. Sicrhewch fod eich cais mor glir â phosibl neu efallai y bydd angen i ni ysgrifennu atoch i ofyn am eglurhad, a fydd yn arwain at oedi.

Os gwelwch yn dda, gallwch:

  • e-bostio ni yn:  powys.foi@wales.nhs.uk
  • ysgrifennu atom yn: Tîm Llywodraethu Gwybodaeth, Ward Hafren, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu, Powys LD3 0LY
  • ffonio ni: 01874 44 2072 / 01874 44 2071

Bydd y Bwrdd Iechyd fel arfer yn ymateb i geisiadau o fewn 20 diwrnod gwaith o'r diwrnod y mae'n derbyn y cais. Bydd y tîm yn:

  • darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani;
  • rhoi gwybod i'r sawl sy'n gwneud y cais os nad yw'r wybodaeth yn cael ei chadw;
  • rhoi gwybod i’r sawl sy'n gwneud y cais os yw corff cyhoeddus arall yn cadw'r wybodaeth;
  • cyhoeddi 'Hysbysiad Ffioedd' sy'n rhoi gwybod i'r sawl sy'n gwneud y cais os codir tâl ar y cais gwybodaeth benodol hwnnw;
  • gwrthod darparu'r wybodaeth, ac esbonio'r rhesymau pam;
  • rhoi gwybod i'r sawl sy'n gofyn bod angen mwy o amser ar y Bwrdd Iechyd i ystyried prawf lles y cyhoedd, a chadarnhau pryd y dylid disgwyl ymateb.

Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ganllaw defnyddiol hefyd i'ch cefnogi wrth wneud ceisiadau am wybodaeth i'r Bwrdd Iechyd. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan yn https://cy.ico.org.uk/

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein taflenni Deddf Rhyddid Gwybodaeth 

Beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon â’ch ymateb Rhyddid Gwybodaeth?

Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd y deliwyd â'ch cais, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad mewnol. Dyma le bydd y Prif Weithredwr yn edrych ar eich cais ac yn gwneud penderfyniad annibynnol ynghylch a ydynt yn cytuno â'r ymateb gwreiddiol ai peidio. Mae gan y Bwrdd Iechyd 20 diwrnod gwaith i gynnal yr adolygiad hwn ac ymateb.

Os hoffech ofyn am adolygiad mewnol:

  • e-bostiwch ni yn:  powys.foi@wales.nhs.uk 
  • ysgrifennwch atom yn: Tîm Llywodraethu Gwybodaeth, Ward Hafren, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu, Powys LD3 0LY
  • ffoniwch ni: 01874 44 2072 / 01874 44 2071

 

 

 

 

 

 
Rhannu:
Cyswllt: