Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Adolygu Diogelwch Cleifion Nosocomiaidd Covid-19 ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys

Doctor ar gefndir aneglur yn pwyntio tuag at dri marc cwestiwn

Ymchwilio a dysgu o achosion o COVID-19 a gafwyd yn lleoliad gofal iechyd.

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd y boblogaeth a systemau gofal iechyd ledled y byd. Fe wnaeth GIG Cymru addasu a newid ei ffocws gweithredol yn gyflym i leihau niwed cymaint â phosibl. Gweithiodd staff y GIG yn ddiflino i gynnal gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y rhai mwyaf anghenus. Fodd bynnag, roedd COVID-19 yn haint newydd ac anrhagweladwy a oedd yn ei gwneud yn anodd iawn ei reoli.

Oherwydd maint a difrifoldeb y pandemig, roedd yn anochel y byddai cleifion yr oedd angen gofal arnynt mewn ysbytai a lleoliadau cleifion mewnol eraill yn wynebu risg uwch o ddal COVID-19. Roedd rheoli lledaeniad COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd yn heriol, yn enwedig pan oedd nifer yr achosion mor uchel yn y gymuned, ac mewn ysbytai, roedd lefelau uwch o gleifion difrifol wael, arhosiadau hwy a mwy o bobl mewn gwelyau ysbytai.

Mae natur y pandemig wedi golygu bod niferoedd anarferol o uchel o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd (a gafwyd yn yr ysbyty) wedi’u cofnodi, sydd wedi effeithio ar tua 18,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth/teuluoedd ledled Cymru.

Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd

Ym mis Ebrill 2022, sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd i gefnogi sefydliadau GIG Cymru yn eu dyletswydd i gynnal ymchwiliadau i ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022. Weithiau mae heintiau sy'n deillio o ofal iechyd yn cael eu hystyried yn ddigwyddiad diogelwch cleifion, yn dibynnu ar sut a phryd y cafwyd yr haint.

Mae’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd wedi gweithio gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i greu fframwaith i sicrhau bod sefydliadau GIG Cymru yn mabwysiadu dull mor gyson â phosibl at y broses ymchwilio, gyda’r nod o sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal unwaith ac yn cael eu gwneud yn dda. Hyd yn hyn, mae’r rhaglen wedi cefnogi sefydliadau GIG Cymru i ymchwilio i dros 12,000 o achosion, gan ddarparu rhai atebion i anwyliaid, yn ogystal â chasglu dysgu a phrofiadau.

Gan gydnabod effaith COVID-19 ar ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a staff GIG Cymru, mae’r rhaglen wedi mabwysiadu dull dysgu sy’n ceisio peidio â rhoi’r bai, ond sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddysgu a gwella ohono.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd GIG Cymru ei Adroddiad Dysgu Interim ar y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd,a roddodd trosolwg o’r rhaglen a nodi rhai o’r themâu dysgu cynnar sy’n dod i’r amlwg drwy’r rhaglen. Disgwylir i adroddiad dysgu terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

Ein Cynnydd

Mae tîm adolygu COVID-19 nosocomiaidd pwrpasol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach wedi cwblhau ei ymchwiliadau diogelwch cleifion sydd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd. Mae’r rhaglen yn estyn ei diolch diffuant i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff am gymryd rhan yn y broses ymchwilio sy’n rhoi cyfle i fyfyrio, dysgu a gwella. Mae'r tîm yn parhau i adolygu’r themâu dysgu, gan ymgysylltu â chydweithwyr i rannu canfyddiadau a chefnogi gwelliant. Mae'r sefydliad yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch cleifion COVID-19 nosocomiaidd y tu allan i ddyddiadau'r rhaglen fel rhan o brosesau adolygu nodweddiadol.

Gall cleifion yr effeithiwyd arnynt, eu teuluoedd a’u gofalwyr y cysylltwyd â hwy fel rhan o’r rhaglen ein cyrraedd o hyd os ydynt yn dymuno trafod unrhyw ymholiadau neu bryderon, drwy ddefnyddio’r manylion isod.


Cyswllt

Mae tîm cyswllt Covid penodol ar gael i roi arweiniad a chefnogaeth. Gallwch gysylltu â'r tîm ar 01874 442918 neu drwy e-bostio: PTHB.nosocomialreviewteam@wales.nhs.uk


Cwestiynau Cyffredin

Gallwch weld cwestiynau cyffredin ynglŷn â'r rhaglen yma


Cymorth

Os oes angen cyngor annibynnol arnoch, yna mae gwasanaethau eiriolaeth a chymorth ar gael i chi drwy Llais.


Gweithio i Wella

Mae gwybodaeth am sut i leisio pryder am eich gofal neu driniaeth ar y GIG ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 
Rhannu:
Cyswllt: