Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg

Mae Tîm y Gymraeg yn hyrwyddo defnydd y Gymraeg, yn cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i weithredu’n ddwyieithog ac yn cynghori staff ar sut i leihau gwahaniaethu, dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Fel rhan o’n gwaith rydym yn gwneud y canlynol:

  • helpu adrannau datblygu gwasanaethau Cymraeg
  • darparu gwasanaeth cyfieithu
  • cefnogi staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg
  • sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
  • cynnig hyfforddiant ar gydymffurfiad â safonau’r Gymraeg a dyletswyddau Cydraddoldeb
  • cynghori ar gyfieithu ar y pryd a hygyrchedd
  • cynghori ar sut i wneud Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Manylion Cyswllt

Mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm yn: 

E-bost: powys.cymraegachydraddoldeb@wales.nhs.uk

Cyfeiriad: Tîm y Gymraeg a Chydraddoldeb

               Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

                Ward Hafren

                Ysbyty Bronllys

                Aberhonddu

                Powys

                LD3 0LY

Cwynion

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried pob cwyn o ddifrif, ac mae croeso i chi wneud cwyn yn Gymraeg. Ni fydd eich cwyn yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chwyn yn Saesneg.

Os hoffech chi wneud cwyn am un neu fwy o safonau’r Gymraeg, enwch y safon rydych chi’n gwneud cwyn amdani neu’r safonau rydych chi’n gwneud cwyn amdanynt. Dilynwch y ddolen hon i weld ein Hysbysiad Cydymffurfio

Os hoffech wneud cwyn, ewch i'r dudalen Adborth a Phryderon ar ein gwefan: Adborth a Chwynion - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Rhowch glic ar y dolenni Cymraeg neu Cydraddoldeb isod i weld y dogfennau perthnasol

 

Rhannu:
Cyswllt: