Cyn gwneud cais am brawf, rhaid i chi ddangos o leiaf un o’r symptomau canlynol:
Os ydych yn datblygu un o'r symptomau dilynwch y canllawiau hunanynysu.
Pan ewch am brawf coronafeirws mae'n RHAID i chi ddilyn y rheolau ar hunan-ynysu.
Fe allech chi gael dewis rhwng y canlynol:
Mae profion yng Nghymru yn cynnwys cymryd un swab sych o gefn y gwddf neu swab gwddf a thrwyn cyfun.
Gwnewch gais am brawf ar-lein (ar GOV.UK).
Gallwch wneud cais i chi eich hun neu i unrhyw un yn eich aelwyd sydd â symptomau. Os nad oes profion ar gael, rhowch gynnig eto yn nes ymlaen gan fod profion yn dod ar gael yn ystod y dydd.
Fel arall, gallwch ffonio 119 (rhwng 7am ac 11pm).
Gall pobl sydd â nam ar y clyw neu’r lleferydd ffonio 18001119. Mae’r gwasanaeth am ddim ar gael i’ch cynorthwyo gyda’r broses o archebu a chymryd prawf, ond ni all roi cyngor clinigol.
Mae canolfannau profi gyrru drwodd ar raddfa fawr ar gael ym Mhowys:
Rheolir y canolfannau profi hyn gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gallwch hefyd bwcio i fynd i ganolfan gyrru drwodd ganolfan brofi mewn siroedd cyfagos os yw hyn yn fwy cyfleus i chi.
Gwnewch gais am brawf ar-lein (ar GOV.UK).
Gallwch wneud cais i chi eich hun neu i unrhyw un yn eich aelwyd sydd â symptomau. Os nad oes profion ar gael, rhowch gynnig eto yn nes ymlaen gan fod profion yn dod ar gael yn ystod y dydd.
Fel arall, gallwch ffonio 119 (rhwng 7am ac 11pm).
Gall pobl sydd â nam ar y clyw neu’r lleferydd ffonio 18001119. Mae’r gwasanaeth am ddim ar gael i’ch cynorthwyo gyda’r broses o archebu a chymryd prawf, ond ni all roi cyngor clinigol.
Safleoedd profi lleol ym Mhowys:
Mae'r cyfleuster profi hwn yn cael ei redeg a'i staffio gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae'r slotiau'n cael eu blaenoriaethu ar gyfer:
Defnyddiwch ein system bwcio leol i fwcio prawf mewn safle profi lleol:
Os gwnaethoch gyfeirio i'w brofi ar lwybrau eraill (e.e. profi gweithwyr allweddol, profi cyn gweithdrefn neu apwyntiad ysbyty) efallai y cewch gynnig profion i chi hefyd mewn lleoliadau eraill gan gynnwys y Trallwng.
Mae Unedau Profi Symudol yn rhan bwysig o'n rhaglen brofi. Er enghraifft, rydym yn defnyddio unedau profi symudol i ymateb i achosion lleol.
Rydym yn hysbysebu'r rhain yn lleol a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Pan ewch am brawf coronafeirws mae'n RHAID i chi ddilyn y rheolau ar hunan-ynysu:
✅ Teithio'n uniongyrchol i'r ganolfan brawf ac oddi yno
❌ Peidiwch â defnyddio tacsis na thrafnidiaeth gyhoeddus
✅ Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a roddir i chi wrth fwcio, a chan staff y ganolfan
❌ Peidiwch ag ymweld â siopau lleol na chyfleusterau lleol eraill
✅ Sicrhewch eich bod yn dilyn canllawiau cenedlaethol ar hunan ynysu
Helpwch ni i Ddiogelu Powys
Defnyddiwch gwasanaeth coronafeirws 111 ar-lein:
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999.
Pan fyddwch yn archebu eich prawf, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am sut y rhoddir y canlyniad ichi. Dylech gael canlyniad eich prawf o fewn 72 awr.
Pecynnau Profi Gartref a canolfannau profi gyrru drwodd ar raddfa fawr: Ffoniwch 119 os ydych chi’n cael trafferth cael eich canlyniadau. Gall pobl sydd â nam ar y clyw neu nam ar y lleferydd ffonio 18001119. Mae’r ganolfan gyswllt ar agor o 7am tan 11pm.
Safleoedd profi lleol: Ffoniwch Hyb Profi Powys ar 01874 612228
Os ydych chi wedi cael canlyniad eich prawf a bod gennych gwestiynau neu os ydych chi angen cyngor pellach, darllenwch Wybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer unigolion sydd wedi cael prawf COVID-19