Neidio i'r prif gynnwy

Eich Gwasanaeth Seicoleg Lleol

Pobl yn eistedd mewn cylch yn siarad, gan rannu problemau.

Pwy mae’r gwasanaeth Seicoleg yn eu cefnogi?

Mae’ch Gwasanaeth Seicoleg lleol yn darparu amrywiaeth o driniaethau therapiwtig gan gynnwys therapïau siarad, therapi gwybyddol ymddygiadol, therapi ailbrosesu dadsensiteiddio symudiad llygaid a llawer mwy.  Mae’r Gwasanaeth Seicoleg wedi’i rannu’n ddau arbenigedd; y gwasanaeth i oedolion (ar gyfer pobl rhwng 18 a 65 oed) a’r gwasanaeth Pobl Hŷn (ar gyfer pobl 65 oed a hŷn). Gall y rheini sy’n 17 oed ac iau gael therapïau seicolegol drwy’r tîm CAMHS.

 

Oriau agor

Mae gan ein Timau Seicoleg oriau gweithredu craidd o 9:00yb tan 5:00yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Sut i gael mynediad i’r gwasanaeth

Dim ond trwy atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol ym maes iechyd y mae modd cael mynediad i wasanaethau seicoleg.

 

Beth i’w ddisgwyl

Pan fyddwch chi’n cael eich atgyfeirio i’r gwasanaeth Seicoleg, byddwch chi’n cael eich rhoi ar restr aros.

Pan fydd apwyntiad ar gael, byddwch chi’n cael gwybod a byddwch chi’n cael dyddiad ar gyfer eich sesiwn ragarweiniol yn gyntaf, ac asesiad gyda Seicolegydd neu Seicolegydd Cynorthwyol i bennu pa therapi fyddai fwyaf buddiol i chi.

Ar ôl eich asesiad, bydd eich Seicolegydd neu Seicolegydd Cynorthwyol yn cadarnhau’r cwrs therapi mwyaf priodol i chi ac yn cytuno ar amlder eich therapi.

 

Ein Timau

Mae ein gwasanaeth Seicoleg wedi’i leoli mewn dau brif safle:

Seicoleg Gogledd Powys

Clinig Stryd y Parc

Y Drenewydd

Powys

SY16 1EG

Ffôn: 01686 617388       

Seicoleg De Powys

Ward Erwyd

Ysbyty Bronllys

Powys

LD3 0LU

Ffôn: 01874 712 610

Rhannu:
Cyswllt: