Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'r Tîm Mamolaeth

Dynes feichiog mewn mwgwd wyneb yn ymweld â bydwraig yn yr ysbyty

Yn ystod eich beichiogrwydd byddwch yn cwrdd â bydwraig, ac ymarferydd uwchsain. Os oes unrhyw bryderon am eich iechyd chi neu iechyd eich babi, o bosibl bydd eich bydwraig yn eich atgyfeirio at obstetrydd, pediatregydd neu anaesthetegydd.


Bydwraig

Mae Bydwragedd wedi’u hyfforddi’n arbenigol er mwyn cynnig cymorth, gofal a chefnogaeth i chi a’ch teulu, cyn, yn ystod ac ar ôl genedigaeth eich plentyn. Byddant yno i’ch helpu chi wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth trwy gydol eich beichiogrwydd. Mae bydwragedd hefyd yn cynnig cyngor a chymorth rhianta i chi a’ch babi. Mae bydwragedd yn arbenigwyr ar feichiogrwydd a genedigaeth arferol a fydd yn eich cyfeirio at obstetregydd yn ôl yr angen. Ar hyn o bryd mae tua 75% o enedigaethau yn y DU yn cael eu hwyluso gan Fydwragedd.


Obstetrydd

Mae Obstetrydd yn feddyg ysbyty gyda hyfforddiant arbenigol yng ngofal menywod yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Mae ganddyn nhw wybodaeth arbenigol ym maes rheoli cymhlethdodau beichiogrwydd. Byddwch yn cwrdd ag obstetryddion gyda gwahanol lefelau o brofiad, sef y cofrestryddion arbenigol a swyddogion preswyl. Mae obstetrydd ymgynghorol yn uwch feddyg ar alwad 24 awr y dydd i oruchwylio diogelwch eich babi.


Ymarferydd Uwchsain

Mae Ymarferwyr Uwchsain wedi’u hyfforddi i gynnal sganiau. Mae holl fenywod yn cael cynnig sgan uwchsain ar bwynt 11-13 wythnos eu cyfnod beichiogrwydd, a sgan arall ar 20 wythnos. Os ydych yn dewis cael sgan, bydd yn cael ei ddefnyddio i gadarnhau dyddiad geni disgwyliedig eich babi ac i sgrinio am abnormaleddau’r groth a chymhlethdodau beichiogrwydd. Am fwy o wybodaeth ar sganiau, siaradwch gyda’ch bydwraig.


Anaesthetegydd

Mae anaesthetegydd yn feddyg gyda hyfforddiant arbenigol, wedi’i leoli ar ward genedigaeth. Maen nhw’n cynnig epidwral ar gyfer lleddfu poen yn ystod yr esgor a gwasanaeth anesthetig i fenywod sydd angen toriad cesaraidd neu amgylchiadau argyfwng eraill. Maen nhw’n gweithio'n agos gydag obstetryddion sy'n cynnig cyngor a chymorth i ofalu am fenywod sydd â chymhlethdodau neu salwch.


Pediatregydd

Mae neonatolegydd yn bediatregydd [meddyg] gyda hyfforddiant arbenigol ym maes gofal babanod newydd-anedig. Yn ogystal â darparu cymorth i fabanod ar y wardiau ôl-enedigol, mae neonatolegwyr yn goruchwylio gofal babanod sâl yn yr uned gofal dwys i’r newydd-anedig.

Rhannu:
Cyswllt: