Yn y DU, mae achosion o’r Frech Goch yn cynyddu. Gall y frech goch fod yn glefyd difrifol iawn ac achosi cymhlethdodau difrifol, sy’n gallu peryglu bywyd. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cael ei amddiffyn – mae byth yn rhy hwyr i’w frechu!
Mae angen 2 ddos o'r brechlyn MMR ar gyfer amddiffyniad 95% yn erbyn y frech goch. Os nad ydych yn siŵr o statws brechu eich plentyn, gallwch wirio drwy'r llwybrau canlynol:
Os nad yw'ch plentyn wedi'i frechu'n llawn, ac nad ydych eisoes wedi gwneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu ar gyfer brechiad MMR, gallwch gael mynediad i un o'n sesiynau galw-heibio yn ein canolfannau brechu yn ystod hanner tymor. Ar gael yn:
Dydd Iau 9 Mai: 11.30yb-2.00yp a 3.00yp-6.30yh a Dydd Gwener 10 Mai: 9.30yb-12.30yp a 1.30yp-4.30yp
Neuadd Sgowtiaid COWSHAAC, Y Trallwng - Dydd Iau 9 Mai: 9.30yb-12.30yp a 1.30yp-4.30yp
Clwb Rygbi Ystradgynlais - Dydd Mercher 8 Mai: 10.45yb-12.15yp a 1.15yp-3.15yp
Ysbyty Bro Ddyfi - Dydd Mercher 8 Mai: 10.45yb-12.15yp a 1.15yp-3.15yp
Canolfan Iechyd a Gofal Glan Irfon, Llanfair-ym-Muallt - Dydd Mawrth 7 Mai: 10.15yb-12.15yp a 1.15yp-3.45yp
Canolfan Gymunedol Knucklas - Dydd Gwener 10 Mai: 10.30yb-12.30yp a 1.30yp-3.30yp
I gael rhagor o wybodaeth am y Frech Goch, ewch i: GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Y frech goch (wales.nhs.uk)
Rhyddhawyd: 03/05/2024