Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Rhagoriaeth i nyrs am achub bywyd

Mae Nyrs Mân Anafiadau o Ystradgynlais wedi derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig am ei hymateb cyflym, digynnwrf a phroffesiynol wrth achub bywyd claf yn gynharach eleni.

Roedd Alice Chappell eisoes wedi gorffen ei sifft yn Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais ac wedi aros i gwblhau rhywfaint o waith papur yn yr Uned Mân Anafiadau yn yr ysbyty ar ôl iddi gau am y diwrnod pan gerddodd Brendon Clancy i mewn i'r ysbyty ar ôl gyrru ei hun yno wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol o ganlyniad i lif gron yn ei gartref.

Nid yw unedau mân anafiadau wedi'u paratoi ar gyfer cleifion â thrawma mawr fel Mr Clancy ond roedd Alice yn gyflym i gamu mewn a darparu gofal i achub ei fywyd.

Roedd Alice yn Ymarferydd Nyrsio Brys dan hyfforddiant ar y pryd ond roedd ei hyfforddiant a'i phroffesiynoldeb wedi ei galluogi i fod yn gyfrifol am y sefyllfa. Casglodd gydweithwyr eraill at ei gilydd i helpu a dyrannu rolau i reoli'r trawma.

Nid yn unig roedd hi'n tawelu meddyliau'r claf, ond hefyd yn gwirio bod y staff i gyd yn iawn. Roedd yr anafiadau'n ddifrifol a ddim yn rhywbeth roedd staff yr ysbyty wedi'i weld o'r blaen. Diolch i Alice, cafodd Mr Clancy ei sefydlogi cyn cael ei gludo yn yr awyr i Gaerdydd ac ers hynny mae wedi gwella'n llwyr.

Derbyniodd Alice ei gwobr gan Kirsty Williams, Is-gadeirydd y bwrdd iechyd a chyn-Weinidog Llywodraeth Cymru.

Roedd Brendon Clancy hefyd yn gallu mynychu'r cyflwyniad gwobr ynghyd â llawer o'r staff eraill a oedd yno ar y diwrnod.

 

Cyhoeddwyd: 16/01/2024

Rhannu:
Cyswllt: