Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth Swydd Amwythig i gynnal sesiwn ymgysylltu galw heibio yn y Drenewydd

Pobl Canolbarth Cymru! Ydych chi eisiau sgwrsio gyda'r tîm o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford am eu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau yn yr Amwythig a Telford?

Dewch i glywed mwy am eu cynlluniau i ddarparu dau safle ysbyty ffyniannus yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig ac Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol Telford a gwella gofal i bawb ledled Swydd Amwythig, Telford a Wrekin a'r canolbarth.

Bydd tîm y Rhaglen Trawsnewid Ysbytai yn cynnal sesiwn galw heibio yn ein swyddfa Rhaglen Lles Gogledd Powys yn y Drenewydd sy'n agored i gleifion a'r cyhoedd. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a darganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan wrth i gynlluniau ddatblygu.

Bydd tîm Rhaglen Trawsnewid Ysbytai yn ymweld â'r Drenewydd ddydd Mercher 13 Rhagfyr rhwng 12yh a 2.30yh yn Swyddfa Rhaglen Lles Gogledd Powys, Ystafell 1.13 Tŷ Ladywell, Y Drenewydd, SY16 1JB.

Os na allwch fynychu ond hoffech glywed mwy am y rhaglen a ffyrdd eraill o gymryd rhan, ewch i Hospitals Transformation Programme - STWICS

 

Rhannu:
Cyswllt: