Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion y Bwrdd Iechyd

Gwasanaethau Deintyddol Yn Aberhonddu
female patient lying with open wide mouth while male dentist operates on teeth
female patient lying with open wide mouth while male dentist operates on teeth

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch iawn o gyhoeddi contract newydd ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol y GIG yn Aberhonddu ar ôl cymryd drosodd yr hen feddygfa MyDentist yn y dref.

Mae'r perchennog newydd yn y broses o recriwtio tîm newydd gyda'r bwriad o gynnig darpariaeth gwasanaeth y GIG unwaith y bydd ganddynt dîm llawn.

Yn y cyfamser bydd y darparwr yn cynnig gofal deintyddol brys a thriniaeth ddeintyddol wedi'i blaenoriaethu. Byddwch yn amyneddgar yn ystod y cyfnod interim hwn.

Derbyniwch ein hymddiheuriadau nad ydym eto mewn sefyllfa i gynnig Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yn y practis hwn.

Annog y cyhoedd i'n Helpu Ni i'ch Helpu wrth i'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal barhau

Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu ac aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod prysur hwn.

"Rhaid i ni i gyd wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd", wrth i wasanaethau wynebu mwy o alw nag erioed

Mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, wedi annog pobl i wneud yr hyn a allant i leddfu’r pwysau ar y GIG.

Neges Nos Galan oddi wrth BIAP a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Rydym yn gofyn i’r cyhoedd gadw’n ddiogel a defnyddio 999 yn gyfrifol Nos Galan eleni.

Mae galw sylweddol ar wasanaeth 111 GIG Cymru

Mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn ymweld â https://111.wales.nhs.uk/

Clinigau Galw Heibio Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 - wythnos yn dechrau 2 Ionawr

Mae Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID 19 ar gael ar sail galw heibio i gleifion Powys 50+ oed ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Clinigau Galw Heibio Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 wythnos yn dechrau 26 Rhagfyr

Mae Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID 19 ar gael ar sail galw heibio i gleifion Powys 50+ oed ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Arbenigwyr iechyd yn atgoffa'r cyhoedd am beryglon gwenwyno Carbon Monocsid

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl am y camau syml y mae angen iddynt eu cymryd i atal gwenwyno Carbon Monocsid (CO) yn y cartref.   

Mae Materion Prif Gyflenwad Dŵr yn effeithio ar Wasanaethau'r GIG yn Llandrindod
Cynghorir trigolion Powys i gynllunio ymlaen llaw ac archebu presgripsiynau amlroddadwy cyn y Nadolig
Fferyllydd yn egluro meddyginiaeth i ddyn hen
Fferyllydd yn egluro meddyginiaeth i ddyn hen

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio o flaen llaw ac yn archebu eich presgripsiwn rheolaidd mewn digon o amser. Dyma’r neges gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys wrth i ni agosáu at y Nadolig.

Cynnig newydd deniadol i hyfforddeion deintyddol ar fin gwella gofal deintyddol ym Mhowys

Mae'r pecyn newydd hwn yn cynnwys manteison fel £5000 grant byw mewn ardaloedd gwledig

Clinigau Galw Heibio Brechlynd Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 - wythnos yn dechrau 19 Rhagfyr

Mae Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID 19 ar gael ar sail galw heibio i gleifion Powys 50+ oed ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (14 Rhagfyr 2022)

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Deall symptomau iGAS a'r Dwymyn Goch

Gwybodaeth am Strep A

Ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i Fioamrywiaeth a nodir yn Adroddiad Adran 6
Diweddariad gan Gyngor Sir Powys: Lansio cyfeirlyfr mannau cynnes

Mae Cyfeiriadur Mannau Cynnes Cyngor Sir Powys yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, eglwysi a mannau eraill sy'n agor eu drysau i unrhyw un sydd eu hangen.

Clinigau Galw Heibio Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 - wythnos yn dechrau 12 Rhagfyr

Mae Atgyfnerthwyr yr Hydref COVID 19 ar gael ar sail galw heibio i gleifion Powys 50+ oed ac i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Bwrdd Iechyd yn galw ar bob unigolyn cymwys i gael eu brechiadau ffliw a COVID-19 am ddim
Mae haint Streptococcus Grŵp Ymledol A (IGAS) yn parhau i fod yn brin, meddai arbenigwyr iechyd cyhoeddus

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd.

Daw'r nodyn atgoffa ar ôl i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nifer o farwolaethau o iGAS, sef cymhlethdod prin o haint streptococol grŵp A.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, salwch ysgafn fel arfer.

Bu cynnydd yn y dwymyn goch eleni.  Yn y DU, cafwyd 1,512 o hysbysiadau o'r dwymyn goch rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2022, o gymharu â 948 yn ystod yr un cyfnod yn 2019.

Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Er ein bod yn deall bod rhieni yn debygol o boeni am adroddiadau y maent yn eu gweld yn gysylltiedig ag iGAS, mae'r cyflwr yn parhau i fod yn brin.

“Mae symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw yn gyffredin iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig mewn plant.  Bydd y rhan fwyaf yn cael feirws tymhorol cyffredin y gellir ei drin drwy sicrhau bod y plentyn yn yfed digon, a'i drin â pharasetamol.

“Efallai y bydd rhai plant sydd â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw- dolur gwddf, cur pen, twymyn - yn profi rhai o symptomau cynnar y dwymyn goch, sydd hefyd yn mynd ar led ar yr adeg hon o'r flwyddyn.  Bydd y plant hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu symptomau penodol i'r dwymyn goch, gan gynnwys brech binc-goch fân sy'n teimlo fel papur tywod wrth ei chyffwrdd, a dylai rhieni gysylltu â'u meddyg teulu.

“Er bod y dwymyn goch yn peri mwy o bryder, mae'n dal i fod yn salwch eithaf ysgafn a bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn gyda gwrthfiotigau.

“Mewn achosion prin iawn, gall haint streptococol grŵp A achosi iGAS, sef cymhlethdod prin sy'n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn.  Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd y mwyafrif o'r plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol.

“Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu'r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw, ond i ymgyfarwyddo â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal.

“Mae hefyd yn bwysig bod plant o ddwy oed i fyny yn cael eu hamddiffyn rhag ffliw tymhorol, a chael y brechlyn.”

Symptomau'r dwymyn goch

Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, pen tost/cur pen, twymyn, cyfog a chwydu.  Dilynir hyn gan frech fân lliw coch, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd plant hŷn yn cael y frech.

Ar groen pigmentog tywyll, gall y frech lliw coch fod yn fwy anodd i'w gweld, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'.  Gall yr wyneb gochi ond yn welw o amgylch y geg.

Cynghorir y dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn symptomau'r dwymyn goch wneud y canlynol:

  • Cysylltu â'u meddyg teulu, ymweld â 111.wales.nhs.uk, neu ffinio GIG 111 Cymru  
  • Sicrhau bod eu plentyn yn cymryd y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau a ragnodir gan y meddyg
  • Cadw eu plentyn gartref, i ffwrdd o'r feithrinfa, ysgol neu'r gwaith a dilyn unrhyw ganllawiau a roddir gan eu meddyg teulu ynghylch pa mor hir y dylent barhau i fod yn absennol o'r lleoliadau hyn.
  • Dewch o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar heintiau streptococol A yn 111.wales.nhs.uk

Symptomau iGAS

  • Twymyn (tymheredd uchel dros 38°C)
  • Poenau difrifol yn y cyhyrau
  • Tynerwch cyfyngedig yn y cyhyrau
  • Cochni ar safle clwyf.

Mae rhieni yn cael eu cynghori i gysylltu â'u meddyg teulu neu gael cyngor meddygol ar unwaith os ydynt yn credu bod gan eu plentyn unrhyw un o arwyddion a symptomau clefyd iGAS.

Datblygiadau Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael eu trafod ar 6 Rhagfyr 2022

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi papurau ar gyfer eu cyfarfod yn gyhoeddus ar 6 Rhagfyr 2022.