Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwyr iechyd yn atgoffa'r cyhoedd am beryglon gwenwyno Carbon Monocsid

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl am y camau syml y mae angen iddynt eu cymryd i atal gwenwyno Carbon Monocsid (CO) yn y cartref.   

Mae'r cyngor yn cynnwys sicrhau bod offer gwresogi a choginio yn cael eu harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn, a bod simneiau a ffliwiau yn cael eu harchwilio neu eu hysgubo o leiaf unwaith bob blwyddyn. Maent hefyd yn cynghori'n gryf y dylid cael larwm carbon monocsid sy'n gweithio. Gall hyn i gyd atal problemau gyda CO, gan gynnwys gwenwyno CO. 

Daw'r alwad ar ôl i'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol gael nifer o alwadau gofidus yn ymwneud â CO, o amrywiaeth o ffynonellau. 

Meddai Paul Callow, Gwyddonydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Wrth iddi fynd yn oerach ac rydym yn defnyddio ein gwres yn fwy rydym am atgoffa pobl o beryglon CO a sut i'ch cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel.  

“Gall gwenwyno CO ladd a gall y symptomau a'r arwyddion gael eu camgymryd am bethau eraill. Ond, diolch byth, mae'n hawdd ei atal.  

 “Bydd cael eich offer coginio a gwresogi wedi'u harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn gan berson cofrestredig, a chael larwm CO sy'n gweithio yn eich cartref, yn atal hyn rhag digwydd.” 

Gall symptomau gwenwyno CO fod yn debyg i symptomau ffliw, gwenwyn bwyd a hangofyr. Maent yn cynnwys pen tost/cur pen (fel y symptom mwyaf cyffredin), blinder, teimlo neu fod yn sâl, pendro, dryswch, colli ymwybyddiaeth. Mae'r symptomau yn aml yn gwella yn yr awyr agored. Gall dod i gysylltiad â lefelau uchel o CO ladd.  Mae gwenwyno CO yn tueddu i fod yn fwy cyffredin yn y gaeaf pan fydd systemau gwresogi'n cael eu rhoi ymlaen a'u defnyddio.  

I gael rhagor o wybodaeth: 

Carbon Monocsid (CO) - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) 

Gwenwyno carbon monocsid: cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol | LLYW.CYMRU 

 

Cyhoeddwyd 20/12/22

Rhannu:
Cyswllt: