Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion y Bwrdd Iechyd

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld ag Ysbyty Bro Ddyfi

Mae cleifion ym Mro Ddyfi yn elwa o well cyfleusterau gofal iechyd diolch i adnewyddiad gwerth £15m yn Ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth a agorwyd yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, ddydd Iau 25 Mai 2023.

Mae'r cais i gau meddygfa Belmont wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd

Derbyniwyd y penderfyniad gan gyfarfod o’r Bwrdd ar 24 Mai 2023.

Cyfarfod Bwrdd yn gyhoeddus yn trafod cais i gau Meddygfa Cangen Belmont

Bydd cyfarfod cyhoeddus ar 24 Mai yn trafod y cais gan Feddygfa Grŵp Crughywel i gau Meddygfa Cangen Belmont

Cleifion yn dechrau defnyddio cyfleusterau newydd ym Machynlleth

Mae cleifion nawr yn dechrau defnyddio cyfleusterau newydd eu gwedd yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, gyda diolch i gyllid £15m gan Lywodraeth Cymru.

Amser o hyd i ddweud eich dweud ym mis Mai ar y gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru

Mae dyddiadau pellach wedi eu cyhoeddi fel rhan o'r broses ymgysylltu cyhoeddus ffurfiol am EMRTS Cymru sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i ddarparu'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru.

Celfyddydau Creadigol, Strategaeth Iechyd a Lles Powys -Arolwg

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn datblygu Strategaeth Greadigol Iechyd a Lles Powys gyda'r nod o ymgorffori profiadau celfyddydau, creadigrwydd ac ecotherapi (e.e. garddio, crefftau awyr agored) i wasanaethau iechyd er budd pobl Powys, i gefnogi iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles.
 

Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cyhoeddi penodi Prif Weithredwr dros dro yn dilyn secondiad Carol Shillabeer i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Heddiw mae Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, wedi cyhoeddi penodiad Hayley Thomas yn Brif Weithredwr dros dro y Bwrdd Iechyd.